RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 4TREFNIADAU CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AR GYFER PRIF GYNGHORAU NEWYDD
142Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
1
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) bod rhaid iddo gyflawni ei swyddogaethau taliadau a phensiynau mewn perthynas ag—
a
y cyngor cysgodol ar gyfer prif ardal newydd a sefydlir o dan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, a
b
y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, am y flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi.
2
At ddibenion is-adran (1), swyddogaethau taliadau a phensiynau y Panel yw’r swyddogaethau o dan yr adrannau a ganlyn yn Rhan 8 o Fesur 2011—
a
adran 142 (taliadau i aelodau), a
b
adran 143 (pensiynau aelodau).
3
Yn unol â hynny, mae Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn achos cyngor y mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys iddo; ond o ran ei gymhwysiad yn rhinwedd yr is-adran hon mae Rhan 8 yn ddarostyngedig i—
a
is-adran (4), a
b
adran 143.
4
Pan fo Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3)—
a
mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol at ddibenion y Rhan honno,
b
caiff y Panel arfer ei swyddogaethau o dan Ran 8 o Fesur 2011 mewn perthynas â’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd cyn i’r cyngor gael ei sefydlu (gan gynnwys drwy osod gofyniad y bydd y cyngor yn ddarostyngedig iddo pan fydd wedi ei sefydlu); yn unol â hynny, at y dibenion hynny mae’r Rhan honno i’w darllen fel pe bai’r cyngor, cyn iddo gael ei sefydlu, yn awdurdod perthnasol,
c
pan na fo’r diwrnod trosglwyddo yn digwydd ar 1 Ebrill, mae’r cyfeiriadau yn adran 142 at flwyddyn ariannol yn cynnwys cyfeiriad at ran o’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi,
d
nid yw adran 143A (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr) yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3) (ond gweler adran 145(6) yn y Bennod hon, sy’n cymhwyso adran 143A pa un bynnag), ac
e
nid yw adran 146 (adroddiad blynyddol cyntaf y Panel) yn gymwys (ond gweler adran 143(9) yn y Bennod hon).
5
Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â phrif gyngor ar gyfer ardal sydd neu a oedd â chyngor cysgodol dynodedig, caiff y Panel, mewn perthynas â’r adegau cyn y bydd y cyngor wedi ei gyfansoddi o gynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf, ac ar ôl hynny—
a
gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1) o Fesur 2011;
b
gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3) o’r adran honno;
c
gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) o’r adran honno;
d
gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill gwahanol o dan is-adran (6) o’r adran honno;
e
gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3) o Fesur 2011.