RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU SY’N GYSYLLTIEDIG AG UNO AC AILSTRWYTHURO
141Gofyniad ar brif gynghorau i ddarparu gwybodaeth etc. i gyrff eraill
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i gorff perthnasol—
(a)
at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)
at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)
fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)
Mae’r cyrff a ganlyn yn gyrff perthnasol—
(a)
unrhyw brif gyngor arall (gan gynnwys cyngor B) y bydd unrhyw reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â chyngor A yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal;
(b)
unrhyw bwyllgor pontio a sefydlir gan gyngor A (gweler Atodlen 11);
(c)
os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi, y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu i gorff perthnasol arall neu gyngor A unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).