RHAN 7LL+CUNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 3LL+CSWYDDOGAETHAU SY’N GYSYLLTIEDIG AG UNO AC AILSTRWYTHURO

138Adolygiadau o drefniadau etholiadolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo [F1Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] i gynnal adolygiad cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar ôl i Weinidogion Cymru—

(a)cael cais i uno, neu

(b)rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)[F2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru], a

(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol mewn perthynas â chynnig i drosglwyddo rhan o brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu ar gyfer trosglwyddiad o’r fath—

(a)rhaid iddo bennu’r ardal (a gaiff fod yn brif ardal gyfan neu’n rhan ohoni) sydd i fod yn destun yr adolygiad cychwynnol, a

(b)caiff bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir yn is-baragraff (i) neu (ii) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—

(i)y materion a nodir yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1;

(ii)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” yn y paragraff hwnnw.

(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.

(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.

F3(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 138(1)(a)(2)(4)-(6) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(c)

I2A. 138(1)(b)(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)