RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU SY’N GYSYLLTIEDIG AG UNO AC AILSTRWYTHURO

138Adolygiadau o drefniadau etholiadol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo F1Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i gynnal adolygiad cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar ôl i Weinidogion Cymru—

(a)

cael cais i uno, neu

(b)

rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).

(2)

Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)

F2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, a

(b)

unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)

Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol mewn perthynas â chynnig i drosglwyddo rhan o brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu ar gyfer trosglwyddiad o’r fath—

(a)

rhaid iddo bennu’r ardal (a gaiff fod yn brif ardal gyfan neu’n rhan ohoni) sydd i fod yn destun yr adolygiad cychwynnol, a

(b)

caiff bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir yn is-baragraff (i) neu (ii) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—

(i)

y materion a nodir yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1;

(ii)

y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” yn y paragraff hwnnw.

(4)

Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.

(5)

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.

F3(6)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .