RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 2AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
Hwyluso ailstrwythuro
135Dyletswyddau ar gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i hwyluso trosglwyddo
(1)
Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, at ddibenion yr ailstrwythuro, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall sy’n cael ei ailstrwythuro neu’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r ailstrwythuro.
(2)
Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—
(a)
i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(b)
i sicrhau bod y cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd, a’u staff, mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
(3)
Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro ac eithrio un y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—
(a)
i hwyluso trosglwyddo iddo swyddogaethau, staff, eiddo, hawliau ac atebolrwyddau y cyngor sydd o dan ystyriaeth mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(b)
i sicrhau bod y cyngor a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.