RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 2AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
Rheoliadau ailstrwythuro
134Rheoliadau ailstrwythuro: atodol
(1)
Caiff rheoliadau ailstrwythuro wneud darpariaeth sy’n cyfateb i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y canlynol, neu y caniateir neu y mae rhaid ei gwneud o dan y canlynol, neu sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth (gydag addasiadau neu hebddynt)—
(a)
Pennod 4 (trefniadau cydnabyddiaeth ariannol), pan fo’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth yn unol ag adran 131(b);
(b)
adran 127 (etholiadau);
(c)
paragraffau 2 a 3 o Atodlen 11 (pwyllgorau pontio).
(2)
Caiff rheoliadau ailstrwythuro ddarparu—
(a)
ar gyfer sefydlu pwyllgor neu gorff arall i gynnig cyngor ac argymhellion i bersonau a bennir yn y rheoliadau ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau, atebolrwyddau ac eiddo, ac ynglŷn â materion staffio;
(b)
ar gyfer sefydlu corff corfforedig at ddiben meddiannu a gwaredu unrhyw eiddo, hawliau neu atebolrwyddau sydd gan brif gyngor sydd i’w ddiddymu o dan y rheoliadau, ac arfer unrhyw swyddogaethau cysylltiedig sydd gan y cyngor hwnnw; a chaiff rheoliadau ailstrwythuro—
(i)
darparu y gall y corff hwnnw gaffael eiddo, gwneud ardollau, benthyca arian a’i roi ar fenthyg, a
(ii)
gwneud darpariaeth ynglŷn â dirwyn y corff hwnnw i ben;
(c)
ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i bersonau a bennir yn y rheoliadau;
(d)
ar gyfer rhoi cyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru i bersonau a bennir yn y rheoliadau at ddibenion sy’n gysylltiedig ag ailstrwythuro, ac ar gyfer eu gorfodi;
(e)
bod Gweinidogion Cymru i ddyfarnu, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, ar faterion sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro.
(3)
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau ailstrwythuro—
(a)
ar ôl cael adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7) ac ar ôl ymgynghori fel a ddisgrifir yn adran 129(4), neu
(b)
ar ôl cael cais i ddiddymu,
rhaid iddynt hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth ac unrhyw brif gyngor arall y maent wedi ei hysbysu neu wedi ymgynghori ag ef fel a ddisgrifir yn adran 129.
(4)
At ddibenion adrannau 132 a 133, y systemau pleidleisio yw—
(a)
y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983;
(b)
y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.
(5)
Os rhoddir hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6) cyn i adran 7 ddod i rym, ac y bwriedir creu prif ardal newydd—
(a)
nid yw adran 133(1) yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau ailstrwythuro sy’n ymwneud â’r hysbysiad, a
(b)
rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.