RHAN 7LL+CUNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 2LL+CAILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

Rheoliadau ailstrwythuroLL+C

132Rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu bod rhan o brif ardal i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoesLL+C

(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth o dan adran 131(a)—

(a)pennu, drwy gyfeirio at bob rhan o’r ardal sy’n cael ei diddymu ac sy’n cael ei throsglwyddo i brif ardal sy’n bodoli eisoes, ardal newydd y brif ardal honno,

(b)darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall,

(c)darparu ar gyfer dirwyn y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ben a’i ddiddymu, a

(d)darparu bod y system bleidleisio (gweler adran 134(4)) sy’n gymwys mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall (“prif ardal A”) i fod, yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl y dyddiad trosglwyddo, y system bleidleisio sy’n gymwys yng ngweddill prif ardal A.

(2)Caiff rheoliadau ailstrwythuro, at ddibenion darparu bod rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ddod yn rhan o brif ardal arall, wneud darpariaeth ynglŷn ag—

(a)neilltuo cynghorwyr y cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall;

(b)ethol cynghorwyr i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;

(c)y system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall, mewn etholiad i lenwi sedd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir ar ôl y dyddiad trosglwyddo a chyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor ar ôl y dyddiad trosglwyddo;

(d)ethol cynghorwyr i gynghorau cymuned yn ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;

(e)y trefniadau gweithrediaeth mewn cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;

(f)ffurf y weithrediaeth a weithredir gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;

(g)ardal maer etholedig ar gyfer cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, cyfnod ei swydd a’i ethol;

(h)y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i [F1Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru];

(i)newid enw cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;

(j)pa un a yw prif ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn sir neu’n fwrdeistref sirol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 132 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)