RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 2AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
Rheoliadau ailstrwythuro
132Rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu bod rhan o brif ardal i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes
(1)
Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth o dan adran 131(a)—
(a)
pennu, drwy gyfeirio at bob rhan o’r ardal sy’n cael ei diddymu ac sy’n cael ei throsglwyddo i brif ardal sy’n bodoli eisoes, ardal newydd y brif ardal honno,
(b)
darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall,
(c)
darparu ar gyfer dirwyn y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ben a’i ddiddymu, a
(d)
darparu bod y system bleidleisio (gweler adran 134(4)) sy’n gymwys mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall (“prif ardal A”) i fod, yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl y dyddiad trosglwyddo, y system bleidleisio sy’n gymwys yng ngweddill prif ardal A.
(2)
Caiff rheoliadau ailstrwythuro, at ddibenion darparu bod rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ddod yn rhan o brif ardal arall, wneud darpariaeth ynglŷn ag—
(a)
neilltuo cynghorwyr y cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall;
(b)
ethol cynghorwyr i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(c)
y system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall, mewn etholiad i lenwi sedd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir ar ôl y dyddiad trosglwyddo a chyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor ar ôl y dyddiad trosglwyddo;
(d)
ethol cynghorwyr i gynghorau cymuned yn ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(e)
y trefniadau gweithrediaeth mewn cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(f)
ffurf y weithrediaeth a weithredir gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(g)
ardal maer etholedig ar gyfer cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, cyfnod ei swydd a’i ethol;
(h)
y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i F1Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru;
(i)
newid enw cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(j)
pa un a yw prif ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn sir neu’n fwrdeistref sirol.