(1)Rhaid i reoliadau uno ddarparu y bydd cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(2)Rhaid i gyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol etholedig oni fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol darparu y bydd cyngor cysgodol dynodedig.
(3)Mae cyngor cysgodol etholedig—
(a)yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a
(b)yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fydd y cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(4)Mae cyngor cysgodol dynodedig—
(a)yn cynnwys holl aelodau’r cynghorau sy’n uno, a
(b)yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau uno fel y dyddiad pan fydd yr aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(5)Rhaid i’r rheoliadau uno wneud darpariaeth—
(a)i’r cyngor cysgodol benodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet,
(b)yn achos cyngor cysgodol dynodedig, sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,
(c)sy’n pennu swyddogaethau’r cyngor cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol, a
(d)ynglŷn ag ariannu’r cyngor cysgodol.
(6)Caiff darpariaeth a wneir yn unol ag is-adran (5)(d) roi swyddogaethau i gyngor sy’n uno, gan gynnwys mewn perthynas â gweinyddu cyllid y cyngor cysgodol.
(7)Yn is-adran (5)(c), ystyr y “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
(8)Rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu mai cyngor cysgodol etholedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (ac o’r dyddiad hwnnw mae’n brif gyngor, ac mae ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; ac mae’r weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, ac mae ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor).
(9)Yn achos cyngor cysgodol dynodedig, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu—
(a)mai’r cyngor cysgodol dynodedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y cyfnod cyn etholiad, a
(b)yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.
(10)Yn is-adran (9), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 125 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)