RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 1UNO PRIF ARDALOEDD YN WIRFODDOL
Rheoliadau uno
125Cynghorau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol
1
Rhaid i reoliadau uno ddarparu y bydd cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
2
Rhaid i gyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol etholedig oni fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol darparu y bydd cyngor cysgodol dynodedig.
3
Mae cyngor cysgodol etholedig—
a
yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a
b
yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fydd y cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
4
Mae cyngor cysgodol dynodedig—
a
yn cynnwys holl aelodau’r cynghorau sy’n uno, a
b
yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau uno fel y dyddiad pan fydd yr aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
5
Rhaid i’r rheoliadau uno wneud darpariaeth—
a
i’r cyngor cysgodol benodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet,
b
yn achos cyngor cysgodol dynodedig, sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,
c
sy’n pennu swyddogaethau’r cyngor cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol, a
d
ynglŷn ag ariannu’r cyngor cysgodol.
6
Caiff darpariaeth a wneir yn unol ag is-adran (5)(d) roi swyddogaethau i gyngor sy’n uno, gan gynnwys mewn perthynas â gweinyddu cyllid y cyngor cysgodol.
7
Yn is-adran (5)(c), ystyr y “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—
a
sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a
b
sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
8
Rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu mai cyngor cysgodol etholedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (ac o’r dyddiad hwnnw mae’n brif gyngor, ac mae ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; ac mae’r weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, ac mae ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor).
9
Yn achos cyngor cysgodol dynodedig, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu—
a
mai’r cyngor cysgodol dynodedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y cyfnod cyn etholiad, a
b
yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.
10
Yn is-adran (9), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—
a
sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
b
sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.