RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 1UNO PRIF ARDALOEDD YN WIRFODDOL
Ceisiadau i uno
123Canllawiau ynglŷn â cheisiadau i uno
(1)
Rhaid i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â gwneud cais i uno.
(2)
Gellir bodloni’r gofyniad yn is-adran (1) drwy roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru cyn i’r adran hon ddod i rym, ac a ddyroddwyd yn benodol at ddiben yr adran hon.