RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 1UNO PRIF ARDALOEDD YN WIRFODDOL

Ceisiadau i uno

122Ymgynghori cyn gwneud cais i uno

(1)

Cyn gwneud cais i uno rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori â’r canlynol—

(a)

pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,

(b)

pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,

(c)

yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,

(d)

yr awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,

(e)

y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,

(f)

y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,

(g)

pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau,

F1(ga)

pob cyd-bwyllgor corfforedig—

(i)

sy’n cynnwys o leiaf un prif swyddog gweithrediaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 77(4)) o’r prif gynghorau yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)

y mae’n debygol fel arall y bydd y cynnig i uno’n effeithio arno,

(h)

pob prif gyngor arall ar gyfer prif ardal y mae’r cynnig i uno yn debygol o effeithio arni, ac

(i)

unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(2)

Gellir bodloni’r gofyniad yn is-adran (1) drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.