RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU
PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO: AELODAETH A THRAFODION
118Trafodion etc.
(1)
Mae adran 83 o Fesur 2011 (trafodion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn lle is-adrannau (1) a (2) rhodder—
“(1)
Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—
(a)
gan gadeirydd y pwyllgor, neu
(b)
os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.
(2)
Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.”
(3)
Hepgorer is-adran (8).
(4)
Yn Atodlen 6 i’r Ddeddf hon (cynorthwywyr gweithrediaethau), hepgorer paragraff 6(5).
(5)
Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraffau 5(a) a (b).