Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

118Trafodion etc.LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae adran 83 o Fesur 2011 (trafodion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle is-adrannau (1) a (2) rhodder—

(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.

(3)Hepgorer is-adran (8).

(4)Yn Atodlen 6 i’r Ddeddf hon (cynorthwywyr gweithrediaethau), hepgorer paragraff 6(5).

(5)Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraffau 5(a) a (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 118 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/297, ergl. 3(b)