RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU

Diwygio deddfiadau eraill

114Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

“(2A)

Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.”