RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU

Atodol

111Canllawiau

(1)

Rhaid i berson sydd â swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny.

(2)

Wrth arfer swyddogaeth o dan y Bennod hon sy’n ymwneud ag asesu i ba raddau y mae prif gyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, rhaid i berson roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r gofynion perfformiad.

(3)

Nid yw gofynion yr adran hon yn gymwys i—

(a)

Archwilydd Cyffredinol Cymru neu berson sy’n arfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y Bennod hon (yn rhinwedd dirprwyad a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3));

(b)

prif gyngor (gweler adran 89(3) sy’n ymdrin â chanllawiau i brif gynghorau).