(1)Ar ôl cael hysbysiad gan brif gyngor o dan adran 10, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo [F2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] (“y Comisiwn”) i gynnal adolygiad cychwynnol o ardal y cyngor.
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)y Comisiwn, a
(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—
(a)y materion a nodir ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1 (trefniadau etholiadol cynghorau cymuned);
(b)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1.
(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.
(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn mhennawda. 11 wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 48(b)
F2Geiriau yn a. 11(1) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 48(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)