xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CETHOLIADAU

Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorauLL+C

11Adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth LeolLL+C

(1)Ar ôl cael hysbysiad gan brif gyngor o dan adran 10, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) i gynnal adolygiad cychwynnol o ardal y cyngor.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)y Comisiwn, a

(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—

(a)y materion a nodir ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1 (trefniadau etholiadol cynghorau cymuned);

(b)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1.

(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.

(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)