RHAN 1ETHOLIADAU
Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau
11Adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
(1)
Ar ôl cael hysbysiad gan brif gyngor o dan adran 10, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) i gynnal adolygiad cychwynnol o ardal y cyngor.
(2)
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)
y Comisiwn, a
(b)
unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—
(a)
y materion a nodir ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1 (trefniadau etholiadol cynghorau cymuned);
(b)
y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1.
(4)
Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.
(5)
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.