RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU

Atodol

108Arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon

(1)

Caniateir i swyddogaeth a roddir i brif gyngor o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon (ac eithrio swyddogaethau a roddir yn benodol i bwyllgor llywodraethu ac archwilio) gael ei harfer gan y cyngor neu gan ei weithrediaeth, yn unol â phenderfyniad y cyngor.

(2)

Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y cyngor, nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

(3)

Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y weithrediaeth, nid yw adran 14 nac (yn ôl y digwydd) adran 15 o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gan weithrediaethau) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.

(4)

Y swyddogaethau yw—

(a)

adran 91(1) (adroddiad hunanasesu);

(b)

adran 91(8) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag adroddiad);

(c)

adran 92(1) (penodi panel asesiad perfformiad);

(d)

adran 93(1) (ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);

(e)

adran 93(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i adroddiad gan banel);

(f)

adran 96(1) (ymateb i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(g)

adran 96(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(h)

adran 102(2) (cais i Weinidogion Cymru am gefnogaeth a chymorth).