RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU
PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU
Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru
105Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorth
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”) i gydweithredu ag—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
prif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103,
at ddibenion galluogi darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor a gefnogir.
(2)
Pan fydd cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn cael effaith rhaid i’r cyngor a gefnogir ddarparu i berson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) y pethau a ganlyn, i’r graddau y bo’r person yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor—
(a)
mynediad at ei fangreoedd;
(b)
mynediad at y dogfennau a gedwir ganddo (a rhaid i’r cyngor a gefnogir ganiatáu i’r person gymryd copïau o’r dogfennau hynny);
(c)
gwybodaeth arall;
(d)
cyfleusterau a chymorth.
(3)
Ond nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor ddarparu, neu ddarparu mynediad at, unrhyw beth y mae’r cyngor wedi ei wahardd rhag ei ddarparu neu ddarparu mynediad ato gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol.
(4)
Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gyngor a gefnogir gydweithredu â pherson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) drwy gymryd camau a bennir yn y cyfarwyddyd, gan gynnwys—
(a)
ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau) â’r person hwnnw;
(b)
caniatáu i’r person hwnnw hwyluso neu gydgysylltu unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r cyngor.
(5)
Yn is-adran (1)(a) a (b), mae’r cyfeiriadau at Weinidogion Cymru a phrif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103 yn cynnwys person sy’n gweithredu ar eu rhan, yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.