Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

103Cyfarwyddyd i brif gyngor ddarparu cefnogaeth a chymorthLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu i brif gyngor arall (“y cyngor a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Rhaid i’r gefnogaeth a’r cymorth sydd i’w darparu gael eu pennu yn y cyfarwyddyd.

(3)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau gyngor.

(4)Mae’r gefnogaeth a’r cymorth y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i’w darparu yn cynnwys—

(a)ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall â’r cyngor a gefnogir (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau);

(b)cydweithredu â’r cyngor a gefnogir, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;

(c)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau neu ystafelloedd i’r cyngor a gefnogir.