RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Arolygiadau arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

101Ffioedd yr Archwilydd Cyffredinol

(1)Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ragnodi graddfa ffioedd mewn cysylltiad ag arolygiadau arbennig.

(2)Rhaid i brif gyngor y cynhelir arolygiad arbennig mewn cysylltiad ag ef, yn ddarostyngedig i is-adran (3), dalu i Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a lunnir o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), y ffi sy’n daladwy o dan y raddfa a ragnodir o dan is-adran (1).

(3)Os yw’n ymddangos i Swyddfa Archwilio Cymru bod y gwaith a oedd yn gysylltiedig ag arolygiad arbennig penodol yn sylweddol fwy neu’n sylweddol lai na’r hyn a ragwelwyd gan y raddfa a ragnodir o dan is-adran (1), caiff Swyddfa Archwilio Cymru godi ffi sy’n fwy neu’n llai na’r hyn a grybwyllir yn is-adran (2).

(4)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn cynnal y gweithgaredd y mae’n ymwneud ag ef.

(5)Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymgynghori ag—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.