RHAN 1ETHOLIADAU
Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau
10Dyletswydd i hysbysu pan fydd penderfyniad yn cael ei basio
(1)
Os yw prif gyngor yn arfer ei bŵer i newid y system bleidleisio o dan adran 8, rhaid i’r cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol am y newid.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad—
(a)
cael ei wneud o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y penderfyniad o dan adran 9 ei basio,
(b)
cadarnhau bod y cyngor wedi pasio penderfyniad yn unol ag adran 9,
(c)
pennu’r system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, a
(d)
pennu ar ba ddyddiad y cafodd y penderfyniad ei basio.