ATODLEN 6DIWYGIADAU CANLYNIADOL ETC. MEWN PERTHYNAS Â CHYNORTHWYWYR GWEITHREDIAETHAU AWDURDODAU LLEOL

(a gyflwynir gan adran 57)

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

1

(1)

Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mhob un o adrannau 22(1A), 24(1A), 24A(5) a 24B(3) (cadeirydd, is-gadeirydd, aelod llywyddol a dirprwy aelod llywyddol), ar ôl “principal council” mewnosoder “, or an assistant to the executive,”.

(3)

Yn adran 270(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “appropriate Minister” mewnosoder—

““assistant to the executive” has the same meaning as in Schedule 1 to the Local Government Act 2000 (see paragraph 3A of that Schedule);”.

(4)

Yn Atodlen 12, ym mharagraff 5(4) (llywyddu mewn cyfarfodydd), ar ôl “principal council” mewnosoder “, or an assistant to the executive,”.

F12

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Deddf Llywio 1987 (p. 21)

3

Yn adran 3 o Ddeddf Llywio 1987 (awdurdodi llywyr)—

(a)

yn is-adran (9A)(a), ar ôl “local authority” mewnosoder “, or an assistant to the executive,”;

(b)

yn is-adran (10), ar ôl y geiriau agoriadol mewnosoder—

““assistant to the executive” has the same meaning as in Schedule 1 to the Local Government Act 2000 (see paragraph 3A of that Schedule);”.

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14)

4

Yn adran 106(2A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y dreth gyngor etc.: cyfyngiadau ar bleidleisio), ar ôl “to whom this section applies” mewnosoder “, and no assistant to the executive (within the meaning of paragraph 3A of Schedule 1 to the Local Government Act 2000) to whom this section applies,”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)

5

Yn adran 21(9) o Ddeddf 2000 (nid yw pwyllgor trosolwg a chraffu i gynnwys aelodau o’r weithrediaeth), ar ôl “executive” mewnosoder “or any assistant to the executive (within the meaning of paragraph 3A of Schedule 1)”.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

6

(1)

Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 12(2)(b) (aelodaeth pwyllgor gwasanaethau democrataidd), ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod” mewnosoder “neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth”.

(3)

Yn adran 14(2) (cadeirydd pwyllgor gwasanaethau democrataidd), ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod lleol” mewnosoder “neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth”.

(4)

Yn adran 82 (aelodaeth pwyllgor llywodraethu ac archwilio)—

(a)

yn is-adran (2)(c) ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod” mewnosoder “neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth”;

(b)

yn is-adran (3) ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod” mewnosoder “neu gynorthwyydd i’w weithrediaeth”.

F2(5)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .