ATODLEN 6DIWYGIADAU CANLYNIADOL ETC. MEWN PERTHYNAS Â CHYNORTHWYWYR GWEITHREDIAETHAU AWDURDODAU LLEOL

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

2(1)Hyd nes y bo paragraff 1(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf hon yn dod i rym, mae adran 80(1)(a) o Ddeddf 1972 i’w darllen fel pe bai “or assistant to the executive” wedi ei roi ar ôl “member of the executive”.

(2)Hyd nes y bo paragraff 1(7) o Atodlen 2 i’r Ddeddf hon yn dod i rym, mae adran 116 o Ddeddf 1972 i’w darllen fel pe bai “or assistant to the executive” wedi ei roi ar ôl “member of the executive”.