ATODLEN 4HYSBYSIAD AM GYFARFODYDD AWDURDODAU LLEOL, MYNEDIAD AT DDOGFENNAU A MYNYCHU CYFARFODYDD
RHAN 2MYNYCHU CYFARFODYDD AWDURDODAU LLEOL: DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol: diwygiadau sy’n ganlyniadol ar adran 47
23
(1)
Yn Rhan 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd cyngor cymuned), ym mharagraff 29 yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1)
The manner of voting at meetings of a community council is to be decided by the council, but (if a vote is necessary on the question) the proper officer is to determine the manner of voting on that decision; if agreement cannot be reached, the proper officer is to determine the manner of voting on all other matters.”
(2)
Ym Mesur 2011, hepgorer adran 4 (mynychu cyfarfodydd o bell).
(3)
Yn Neddf 2013, hepgorer adran 59 (mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell).
(4)
Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399), yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth), yn y tabl yn Rhan Ff (swyddogaethau amrywiol), ar ôl paragraff 18 mewnosoder—
“19 Y dyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfodydd prif gyngor neu ei weithrediaeth
Adran 47(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021”