ATODLEN 3Diwygiadau mewn perthynas â Rhan 2: pŵer cymhwysedd cyffredinol

(a gyflwynir gan adrannau 29 a 37)

RHAN 1Diwygiadau mewn perthynas â Phennod 1 o Ran 2: y pŵer cyffredinol

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)

1

(1)

Mae Rhan 1 o Ddeddf 2000 (hybu llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol etc.) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

F1(2)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)

Hepgorer adran 5 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau).

(5)

Yn adran 7 (pŵer i addasu deddfiadau ynglŷn â chynlluniau etc.), yn is-adran (1) yn lle “subsections (4) and (6)” rhodder “subsection (4)”.

(6)

Yn y croesbennawd sy’n dod o flaen adran 9, yn lle’r geiriau ar ôl “under” rhodder “this Part”.

(7)

Yn adran 9A (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion o dan adrannau 5 a 7)—

(a)

yn is-adran (1), hepgorer “5 or”;

(b)

yn is-adran (2), hepgorer “5 or”;

(c)

yn is-adran (3)—

(i)

hepgorer “5 or”;

(ii)

hepgorer “5(3A) or”;

(d)

yn is-adrannau (5) i (7) a’r pennawd, hepgorer “5 or” ym mhob lle y mae’n digwydd.

Deddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26)

2

Yn Neddf Llywodraeth Leol 2003, yn adran 116 (cynnal pleidleisiau lleol)—

(a)

ym mharagraff (a)(ii), yn lle “services, or” rhodder “services.”;

(b)

hepgorer paragraff (b).

Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28)

3

Yn adran 115 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (gorchmynion o dan Ran 1 o Deddf 2000), hepgorer is-adrannau (3) a (4).

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2)

4

Ym Mesur 2009, yn Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 1 a 2 a’r croesbennawd sy’n dod o’u blaenau.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

5

Ym Mesur 2011, hepgorer adran 126(2) a (3) (sy’n diwygio adrannau 2 a 5 o Ddeddf 2000).

Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)

6

Yn Neddf Lleoliaeth 2011, yn Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraff 3.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)

7

Yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn Atodlen 4 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: diwygiadau canlyniadol a diddymu) hepgorer paragraffau 3 a 4.

Y Ddeddf hon

8

Yn Atodlen 14 i’r Ddeddf hon, hepgorer paragraff 2.

RHAN 2Diwygiadau mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2: cynghorau cymuned cymwys

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

9

Yn Neddf 1972, yn adran 137(9) (pŵer awdurdodau lleol i fynd i wariant at ddibenion penodol nad ydynt wedi eu hawdurdodi fel arall), ym mharagraff (b) ar ôl “community council” mewnosoder “which is not an eligible community council for the purposes of Part 2 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (general power of competence)”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)

10

Yn Neddf 2000, hepgorer adrannau 2 a 3 (pŵer cynghorau cymuned i hybu llesiant).

Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (p. 41)

11

(1)

Mae Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 55 (hawliadau hwyr: gwrthod rhoi cymorth), yn is-adran (4) hepgorer paragraff (c) (ond nid yr “and” sy’n ei ddilyn).

(3)

Yn Atodlen 3 (cadw cymorth yn ôl a’i dynnu’n ôl), ym mharagraff 1(1) hepgorer paragraff (k).

Deddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26)

12

(1)

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 93 (pŵer i godi ffi am wasanaethau disgresiynol), yn is-adran (7) hepgorer paragraff (c).

(3)

Yn Atodlen 3 (diwygio pwerau penodol), hepgorer paragraff 12.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

13

(1)

Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Hepgorer adran 127 (deddfiadau sy’n atal cyngor cymuned rhag arfer ei bŵer llesiant).

(3)

Hepgorer Pennod 9 o Ran 7 (achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol).

(4)

Yn adran 172 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)

yn is-adran (2)(a), hepgorer “neu 140”;

(b)

yn is-adran (2)(b) hepgorer “127 neu”.

(5)

Hepgorer adran 173 (y weithdrefn sy’n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127).

Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)

14

Yn Neddf Lleoliaeth 2011, yn Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 2 a 4 a’r croesbennawd sy’n dod o flaen paragraff 2.

Y Ddeddf hon

15

Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ym mharagraff 1 hepgorer is-baragraffau (2) a (3).