ATODLEN 3Diwygiadau mewn perthynas â Rhan 2: pŵer cymhwysedd cyffredinol

RHAN 1Diwygiadau mewn perthynas â Phennod 1 o Ran 2: y pŵer cyffredinol

I1I101Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)

1

Mae Rhan 1 o Ddeddf 2000 (hybu llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol etc.) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

F12

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F13

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Hepgorer adran 5 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau).

5

Yn adran 7 (pŵer i addasu deddfiadau ynglŷn â chynlluniau etc.), yn is-adran (1) yn lle “subsections (4) and (6)” rhodder “subsection (4)”.

6

Yn y croesbennawd sy’n dod o flaen adran 9, yn lle’r geiriau ar ôl “under” rhodder “this Part”.

7

Yn adran 9A (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion o dan adrannau 5 a 7)—

a

yn is-adran (1), hepgorer “5 or”;

b

yn is-adran (2), hepgorer “5 or”;

c

yn is-adran (3)—

i

hepgorer “5 or”;

ii

hepgorer “5(3A) or”;

d

yn is-adrannau (5) i (7) a’r pennawd, hepgorer “5 or” ym mhob lle y mae’n digwydd.

I2I112Deddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26)

Yn Neddf Llywodraeth Leol 2003, yn adran 116 (cynnal pleidleisiau lleol)—

a

ym mharagraff (a)(ii), yn lle “services, or” rhodder “services.”;

b

hepgorer paragraff (b).

I3I123Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28)

Yn adran 115 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (gorchmynion o dan Ran 1 o Deddf 2000), hepgorer is-adrannau (3) a (4).

I4I134Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2)

Ym Mesur 2009, yn Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 1 a 2 a’r croesbennawd sy’n dod o’u blaenau.

I5I145Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

Ym Mesur 2011, hepgorer adran 126(2) a (3) (sy’n diwygio adrannau 2 a 5 o Ddeddf 2000).

I6I156Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)

Yn Neddf Lleoliaeth 2011, yn Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraff 3.

I7I167Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)

Yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn Atodlen 4 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: diwygiadau canlyniadol a diddymu) hepgorer paragraffau 3 a 4.

I8I98Y Ddeddf hon

Yn Atodlen 14 i’r Ddeddf hon, hepgorer paragraff 2.