ATODLEN 3Diwygiadau mewn perthynas â Rhan 2: pŵer cymhwysedd cyffredinol

RHAN 2Diwygiadau mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2: cynghorau cymuned cymwys

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

13

(1)

Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Hepgorer adran 127 (deddfiadau sy’n atal cyngor cymuned rhag arfer ei bŵer llesiant).

(3)

Hepgorer Pennod 9 o Ran 7 (achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol).

(4)

Yn adran 172 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)

yn is-adran (2)(a), hepgorer “neu 140”;

(b)

yn is-adran (2)(b) hepgorer “127 neu”.

(5)

Hepgorer adran 173 (y weithdrefn sy’n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127).