xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhan 1: etholiadau

RHAN 1LL+CDeddfwriaeth sylfaenol

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1)LL+C

15(1)Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 24 (diogelu gwybodaeth am bersonau o dan 16 oed)—

(a)yn is-adran (2), yn y diffiniad o “cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol”, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol, cofnod a gedwir o dan baragraff 3(4) neu 7(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (pleidleisio absennol);

(d)i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol, rhestr a gedwir o dan baragraff 5 neu 7(8) o’r Atodlen honno;;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Yn adrannau 25 a 26, ystyr “etholiad llywodraeth leol” yw—

(a)etholiad ar gyfer cynghorwyr dros unrhyw ward etholiadol neu ward gymunedol yng Nghymru neu, yn achos cymuned yng Nghymru lle nad oes unrhyw wardiau, y gymuned, y cynhelir yr etholiad ar gyfer cynghorwyr ar ei chyfer o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70), neu

(b)etholiad i ethol maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)) ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru.

(3)Yn adran 25 (eithriadau i’r gwaharddiad ar ddatgelu)—

(a)yn is-adran (3), yn lle “32ZA(5) a (5A)” rhodder “32ZBD(9) a (9A)”;

(b)yn is-adran (5)—

(i)ym mharagraff (b), ar ôl “Senedd” mewnosoder “, i aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, i faer etholedig ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru neu i ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol”;

(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “Senedd” mewnosoder “neu mewn etholiadau llywodraeth leol”;

(iii)yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)rheoliad 61 o reoliadau 2001 (cofnodion neu restrau pleidleiswyr absennol) i’r graddau y mae’n gymwys i etholiadau llywodraeth leol ac unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r rheoliad hwnnw mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd;;

(iv)yn lle paragraff (f) rhodder—

(f)rheoliad 98 o reoliadau 2001 (cyflenwi i swyddogion canlyniadau) i’r graddau y mae’n gymwys i swyddogion canlyniadau cynghorau cymuned a swyddogion canlyniadau ar gyfer unrhyw etholiadau’r Senedd ac unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i reoliad 98(4) mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd.

(4)Yn adran 26 (darpariaeth bellach ar gyfer eithriadau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “Senedd” mewnosoder “, etholiadau llywodraeth leol neu refferenda lleol”;

(b)ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

(5)Yn yr adran hon, ystyr “refferendwm lleol” yw refferendwm a gynhelir o dan—

(a)adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wnaed o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, neu

(b)adran 40 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 20.3.2021 (yn ddarostyngedig i a. 3), gweler a. 175(3)(f)(ii)