ATODLEN 2LL+CMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhan 1: etholiadau

RHAN 1LL+CDeddfwriaeth sylfaenol

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C

1(1)Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25 (cyfnodau swyddi cynghorwyr a’u hymddeoliad)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “and Part 1” rhodder “, Part 1”;

(ii)ar ôl “1983” mewnosoder “, and Part 1 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “divisions” rhodder “wards”;

(ii)ar ôl “2013 (anaw 4)” mewnosoder “, or by regulations under paragraph 9 or 10 of Schedule 1 to the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”;

(c)yn is-adran (3) yn lle “division” rhodder “ward”.

(3)Yn adran 80 (anghymhwysiad person rhag cael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “local authority”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “paid officer of a local authority” mewnosoder “in England”;

(c)hepgorer is-adran (3B);

(d)yn y pennawd, yn lle “local authority” rhodder “a local authority in England”.

(4)Yn adran 86(1)(b) (datganiad bod lle aelod awdurdod lleol yn wag), ar ôl “otherwise than under” mewnosoder “section 80A(1)(c) of this Act,”.

(5)Yn adran 87(1)(y dyddiad y mae seddau yn digwydd dod yn wag), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)in the case of disqualification of a member of a local authority in Wales under paragraph (c) of section 80A(1), on the date on which the person becomes disqualified under that paragraph;.

(6)Yn adran 89 (llenwi seddau sy’n digwydd dod yn wag yn achos cynghorwyr), yn is-adran (6), ar y diwedd, mewnosoder “in the case of a parish council or, in the case of a community council, made under section 36A of the 1983 Act”.

(7)Yn adran 116 (ni chaniateir penodi aelodau o awdurdodau lleol yn swyddogion)—

(a)ar ôl “local authority”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “in England”;

(b)yn y pennawd ar ôl “local authorities” mewnosoder “in England”.

F1(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(9)Yn y Ddeddf hon, hepgorer paragraff 2 o Atodlen 6 (addasu adrannau 80 a 116 o Ddeddf 1972 mewn perthynas â chynorthwywyr i’r weithrediaeth).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1(1)(2)(6)(8) mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(f)(i)

I2Atod. 2 para. 1(3)-(5)(7) mewn grym ar 17.11.2021 gan O.S. 2021/1249, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 4)

I3Atod. 2 para. 1(9) mewn grym ar 17.11.2021 gan O.S. 2021/1249, ergl. 2(b)