ATODLEN 13DIDDYMU’R PŴER I GYNNAL PLEIDLEISIAU O GANLYNIAD I GYFARFODYDD CYMUNEDOL O DAN DDEDDF 1972
Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)
1
Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Hepgorer adrannau 33B a 33C (ymateb prif gyngor i fynnu cynnal pleidlais mewn cyfarfod cymunedol).
3
Yn adran 150(7) (treuliau cynnal pleidleisiau)—
(a)
hepgorer, yn yr ail le y mae’n digwydd, “or community”;
(b)
ar ôl “meeting”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “or of a community governance poll (as to which, see paragraph 34(8) of Schedule 12)”.
4
Yn adran 243(3) (cyfrifo amser)—
(a)
hepgorer “or community”;
(b)
ar ôl “meeting” mewnosoder “or a community governance poll (as to which, see paragraph 34(8) of Schedule 12)”.
5
Yn Atodlen 12, hepgorer paragraffau 26A a 29A (ymateb gan gyngor cymuned i gynnal pleidlais gymunedol).
6
(1)
Yn Atodlen 12, mae paragraff 34 (cyfarfodydd cymunedol yn gwneud penderfyniadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn is-baragraff (1), yn lle “poll consequent thereon” rhodder “community governance poll”.
(3)
Yn is-baragraff (2)—
(a)
hepgorer “, in the first instance,”;
(b)
hepgorer “unless a poll is demanded”.
(4)
Hepgorer is-baragraff (4).
(5)
“(5)
The Welsh Ministers may by regulations make provision about the conduct of community governance polls.
(6)
Regulations under sub-paragraph (5) may apply any enactment relating to elections or referendums (with or without modifications) to community governance polls.
(7)
A statutory instrument containing regulations under sub-paragraph (5) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.”
(6)
“(8)
In this Part of this Schedule, “community governance poll” means a poll held on a proposal of a kind mentioned in section 27A, 27C, 27E, 27G, 27I or 27K.”
7
Ym mharagraff 37 o Atodlen 12 (benthyca blychau pleidleisio etc.), yn is-baragraff (1) yn lle “poll consequent on a community meeting” rhodder “community governance poll”.
8
Ym mharagraff 38 o Atodlen 12 (troseddau) yn lle “poll consequent on a community meeting” rhodder “community governance poll”.
9
Yn Atodlen 12, hepgorer paragraffau 38A a 38B (hysbysu prif gyngor am ganlyniad cynnal pleidlais o ganlyniad i gyfarfod cymunedol).
Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42)
10
Yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, yn adran 5 hepgorer is-adran (8B) (swyddogaethau swyddogion monitro mewn perthynas â chynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod cymunedol).
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)
11
Ym Mesur 2011, hepgorer adrannau 93 i 99.
Y Ddeddf hon
12
Yn y Ddeddf hon, hepgorer paragraff 1(8) o Atodlen 2 (diwygio paragraff 34 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972).