xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 05/05/2022

(a gyflwynir gan adran 162)

ATODLEN 13LL+CDIDDYMU’R PŴER I GYNNAL PLEIDLEISIAU O GANLYNIAD I GYFARFODYDD CYMUNEDOL O DAN DDEDDF 1972

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C

1Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 13 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

2Hepgorer adrannau 33B a 33C (ymateb prif gyngor i fynnu cynnal pleidlais mewn cyfarfod cymunedol).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 13 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

3Yn adran 150(7) (treuliau cynnal pleidleisiau)—

(a)hepgorer, yn yr ail le y mae’n digwydd, “or community”;

(b)ar ôl “meeting”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “or of a community governance poll (as to which, see paragraph 34(8) of Schedule 12)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 13 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

4Yn adran 243(3) (cyfrifo amser)—

(a)hepgorer “or community”;

(b)ar ôl “meeting” mewnosoder “or a community governance poll (as to which, see paragraph 34(8) of Schedule 12)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 13 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

5Yn Atodlen 12, hepgorer paragraffau 26A a 29A (ymateb gan gyngor cymuned i gynnal pleidlais gymunedol).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 13 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

6(1)Yn Atodlen 12, mae paragraff 34 (cyfarfodydd cymunedol yn gwneud penderfyniadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-baragraff (1), yn lle “poll consequent thereon” rhodder “community governance poll”.

(3)Yn is-baragraff (2)—

(a)hepgorer “, in the first instance,”;

(b)hepgorer “unless a poll is demanded”.

(4)Hepgorer is-baragraff (4).

(5)Yn lle is-baragraffau (5) a (6) rhodder—

(5)The Welsh Ministers may by regulations make provision about the conduct of community governance polls.

(6)Regulations under sub-paragraph (5) may apply any enactment relating to elections or referendums (with or without modifications) to community governance polls.

(7)A statutory instrument containing regulations under sub-paragraph (5) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.

(6)Ar ddiwedd paragraff 34 mewnosoder—

(8)In this Part of this Schedule, “community governance poll” means a poll held on a proposal of a kind mentioned in section 27A, 27C, 27E, 27G, 27I or 27K.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 13 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

7Ym mharagraff 37 o Atodlen 12 (benthyca blychau pleidleisio etc.), yn is-baragraff (1) yn lle “poll consequent on a community meeting” rhodder “community governance poll”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 13 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

8Ym mharagraff 38 o Atodlen 12 (troseddau) yn lle “poll consequent on a community meeting” rhodder “community governance poll”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 13 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

9Yn Atodlen 12, hepgorer paragraffau 38A a 38B (hysbysu prif gyngor am ganlyniad cynnal pleidlais o ganlyniad i gyfarfod cymunedol).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 13 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42)LL+C

10Yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, yn adran 5 hepgorer is-adran (8B) (swyddogaethau swyddogion monitro mewn perthynas â chynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod cymunedol).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 13 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)LL+C

11Ym Mesur 2011, hepgorer adrannau 93 i 99.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 13 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Y Ddeddf honLL+C

12Yn y Ddeddf hon, hepgorer paragraff 1(8) o Atodlen 2 (diwygio paragraff 34 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 13 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)