Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

(a gyflwynir gan adran 137)

ATODLEN 12LL+CCYFYNGIADAU AR DRAFODIADAU A RECRIWTIO ETC. GAN GYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

This schedule has no associated Explanatory Notes

Cyfyngu ar drafodiadau a recriwtio etc. drwy gyfarwyddydLL+C

1(1)Ar ôl cael cais i uno neu ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro—

(a)na chaiff y cyngor gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni fo wedi ystyried barn person neu bersonau penodedig ynglŷn â phriodoldeb cyflawni’r gweithgaredd;

(b)na chaiff y cyngor gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni fo person neu bersonau penodedig wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i gyflawni’r gweithgaredd.

(2)Y gweithgareddau cyfyngedig yw—

(a)gwneud caffaeliad neu warediad tir perthnasol;

(b)ymrwymo i gontract neu gytundeb perthnasol;

(c)gwneud caffaeliad cyfalaf perthnasol;

(d)rhoi grant neu gymorth ariannol arall perthnasol;

(e)rhoi benthyciad perthnasol;

(f)cynnwys swm o gronfeydd ariannol wrth gefn mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14);

(g)dechrau’r broses o recriwtio (gan gynnwys drwy recriwtio mewnol)—

(i)prif swyddog anstatudol a grybwyllir yn adran 2(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42);

(ii)dirprwy brif swyddog a grybwyllir yn adran 2(8) o’r Ddeddf honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n ceisio penodi neu ddynodi person i swydd gyfyngedig (gan gynnwys o blith ei swyddogion presennol) i gydymffurfio â gofynion penodedig ynglŷn â’r penodiad neu’r dynodiad.

(4)Ystyr “swydd gyfyngedig”, mewn perthynas â chyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, yw—

(a)ei brif weithredwr a benodir o dan adran 54;

(b)ei swyddog monitro a ddynodir o dan adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

(c)prif swyddog statudol a grybwyllir yn adran 2(6) o’r Ddeddf honno;

(d)ei bennaeth gwasanaethau democrataidd a ddynodir o dan adran 8(1) o Fesur 2011.

(5)Rhaid i gyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-baragraff (1)—

(a)darparu manylion ynglŷn ag unrhyw gynnig i gyflawni gweithgaredd cyfyngedig i unrhyw berson neu bersonau a bennir at ddiben is-baragraff (1)(a) neu (b) mewn cysylltiad â’r gweithgaredd hwnnw;

(b)darparu manylion i Weinidogion Cymru ynglŷn â chynnig i benodi neu ddynodi person i swydd gyfyngedig pan fo unrhyw ofynion yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad neu’r dynodiad yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3).

(6)Os rhoddir barn at ddibenion is-baragraff (1)(a) na fyddai’n briodol i gyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro gyflawni gweithgaredd cyfyngedig ond bod y cyngor yn penderfynu ei gyflawni, rhaid i’r cyngor gyhoeddi ei resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

(7)Pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan is-baragraff (3), nid yw adran 143A(1)(b) a (3) o Fesur 2011 (argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gydnabyddiaeth ariannol) yn gymwys i gynnig i ddarparu cydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwr cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n wahanol i’r hyn a ddarparwyd i ragflaenydd y prif weithredwr.

(8)Mae cyfarwyddyd a roddir o dan y paragraff hwn yn cael effaith o’r dyddiad penodedig.

(9)Yn y paragraff hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd a roddir o dan y paragraff hwn.

F1(10). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)(m)(i)

I2Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Cyfarwyddydau o dan baragraff 1: atodolLL+C

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan baragraff 1.

(2)Caiff person a bennir yn y cyfarwyddyd yn berson y mae’n ofynnol cael ei farn neu ei gydsyniad fod yn unrhyw awdurdod neu berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, a chaiff hynny gynnwys Gweinidogion Cymru, unrhyw bwyllgor pontio (gweler Atodlen 11 ynglŷn â hynny) ac unrhyw gyngor cysgodol.

(3)Caiff cyfarwyddyd bennu personau gwahanol—

(a)mewn perthynas â materion gwahanol y mae’n ofynnol cael barn neu gydsyniad yn eu cylch;

(b)mewn perthynas â chynghorau gwahanol sy’n uno neu gynghorau gwahanol sy’n cael eu hailstrwythuro.

(4)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â’r un gweithgaredd cyfyngedig, ofynion gwahanol mewn cysylltiad â thrafodiadau o werthoedd gwahanol ac mewn cysylltiad â chyfnodau gwahanol.

(5)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog—

(a)gofynion gwahanol mewn cysylltiad â lefelau gwahanol o gydnabyddiaeth ariannol arfaethedig;

(b)gofynion gwahanol mewn cysylltiad â swyddogion o ddisgrifiadau gwahanol.

(6)Caniateir rhoi barn neu gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd mewn cysylltiad â thrafodiad penodol neu drafodiadau o unrhyw ddisgrifiad.

(7)Caniateir i unrhyw gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd gael ei roi yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau.

(8)At ddibenion cyfarwyddyd sy’n ymwneud â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog, caiff barn a roddir, neu amodau y mae cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt, ymwneud yn benodol—

(a)â’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w darparu i berson sy’n cael ei recriwtio;

(b)â hyd penodiad.

(9)Mae unrhyw ddeddfiadau sy’n ymwneud â chaffaeliadau neu warediadau, ymrwymo i gontractau neu gytundebau, rhoi grantiau neu gymorth ariannol arall, rhoi benthyciadau, neu recriwtio neu benodi personau gan gynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd.

(10)Mae cydsyniad sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan unrhyw un neu ragor o’r deddfiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

I4Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Cyfarwyddydau o dan baragraff 1: darpariaeth bellach ynglŷn â chronfeydd wrth gefnLL+C

3(1)Caiff cyfarwyddyd o dan baragraff 1—

(a)darparu nad yw barn neu gydsyniad y person neu’r personau a bennir yn y cyfarwyddyd yn ofynnol er mwyn cynnwys, mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), gronfeydd ariannol wrth gefn o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)darparu, mewn perthynas â chyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, nad yw barn neu gydsyniad yn ofynnol er mwyn cynnwys mewn cyfrifiad o’r fath swm o gronfeydd ariannol wrth gefn nad yw’n fwy na swm a bennir yn y cyfarwyddyd neu a ddyfernir oddi tano.

(2)Os yw cyfarwyddyd yn cynnwys darpariaeth yn rhinwedd is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad ym mharagraff 1(2)(f) at swm o gronfeydd ariannol wrth gefn i’w ddarllen fel cyfeiriad at swm o gronfeydd ariannol wrth gefn ac eithrio swm a ganiateir gan y cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

I6Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Cyfarwyddyd o dan baragraff 1(3): atodolLL+C

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan baragraff 1(3).

(2)Caiff cyfarwyddyd bennu gofynion gwahanol ar gyfer swyddi o ddisgrifiadau gwahanol.

(3)Caiff gofynion a osodir ar gyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro drwy gyfarwyddyd ymwneud, yn benodol—

(a)â’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w darparu i berson a benodir neu a ddynodir;

(b)â hyd penodiad neu ddynodiad.

(4)Mae unrhyw ddeddfiadau sy’n ymwneud â recriwtio, dynodi neu benodi personau gan gynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

I8Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Cyfarwyddydau: canlyniadau mynd yn groes iddyntLL+C

5(1)Mae caffaeliad neu warediad a wneir mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1 yn ddi-rym.

(2)Mae contract (gan gynnwys contract cyflogaeth) neu gytundeb yr ymrwymir iddo mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1 yn anorfodadwy.

(3)Mae grant neu gymorth ariannol arall neu fenthyciad a roddir mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1 yn ad-daladwy.

(4)Os yw cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn cynnwys cronfeydd ariannol wrth gefn mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) mewn modd sy’n groes i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1, mae’r cyngor i’w drin at ddibenion adran 30(8) o’r Ddeddf honno fel pe na bai wedi gwneud y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan Bennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

I10Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Dehongli paragraffau 1 a 7LL+C

6(1)Ym mharagraffau 1 a 7, ystyr “caffaeliad neu warediad tir perthnasol” yw caffaeliad neu warediad tir pan fo’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad neu’r gwarediad yn fwy na £150,000.

(2)Yn is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at gaffaeliad neu warediad tir yn cynnwys—

(a)caffael neu roi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,

(b)ymrwymo i gontract i gaffael neu waredu tir neu i gaffael neu roi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir, ac

(c)caffael neu roi opsiwn i gaffael unrhyw dir neu unrhyw fuddiant mewn tir.

(3)Ym mharagraffau 1 a 7, ystyr “contract neu gytundeb perthnasol” yw—

(a)unrhyw gontract, ac eithrio contract cyfalaf, y mae’r gydnabyddiaeth oddi tano yn fwy na £150,000—

(i)pan fo cyfnod y contract yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

(ii)pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r contract,

(b)unrhyw gontract cyfalaf y mae’r gydnabyddiaeth oddi tano yn fwy na £500,000, neu

(c)unrhyw gytundeb fframwaith o fewn ystyr rheoliad 33(2) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102)

(i)pan fo cyfnod y cytundeb fframwaith yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

(ii)pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r cytundeb fframwaith.

(4)Yn is-baragraff (3), ystyr “contract cyfalaf” yw contract y mae’r gydnabyddiaeth sy’n daladwy gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro mewn cysylltiad ag ef yn wariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) (cyllid cyfalaf; gweler adran 16 o’r Ddeddf honno).

(5)Ym mharagraffau 1 a 7, ystyr “caffaeliad cyfalaf perthnasol” yw caffaeliad cyfalaf cyfranddaliadau neu gyfalaf benthyciad mewn unrhyw gorff corfforedig y mae’r gydnabyddiaeth mewn perthynas ag ef yn fwy na £500,000, ac eithrio caffaeliad cyfalaf benthyciad pan fo—

(a)caffaeliad y cyfalaf benthyciad yn fuddsoddiad at ddibenion rheoli mewn modd darbodus faterion ariannol y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, a

(b)y buddsoddiad yn cael ei ychwanegu at—

(i)y rhestr swyddogol (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (p. 8); gweler adran 103(1) o’r Ddeddf honno), neu

(ii)rhestr gyfatebol a gedwir gan awdurdod mewn Gwladwriaeth AEE.

(6)Ym mharagraffau 1 a 7, ystyr “grant neu gymorth ariannol arall perthnasol” yw grant neu gymorth ariannol arall (ac eithrio benthyciad) o fwy na £150,000.

(7)Ym mharagraffau 1 a 7, ystyr “benthyciad perthnasol” yw benthyciad o fwy na £150,000—

(a)pan fo cyfnod y benthyciad yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

(b)pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r benthyciad.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi ffigur gwahanol yn lle’r un a nodir am y tro yn is-baragraff (1), (3)(a) neu (b), (5), (6) neu (7).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 12 para. 6 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

I12Atod. 12 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Dyfarnu a yw trothwyon ariannol wedi eu croesiLL+C

7(1)At ddiben dyfarnu a yw caffaeliad neu warediad tir yn gaffaeliad neu’n warediad tir perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad neu’r gwarediad o dan sylw i’w thrin fel pe bai’n cynnwys y gydnabyddiaeth ar gyfer unrhyw gaffaeliad neu warediad tir arall—

(a)a wneir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—

(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y caffaeliad neu’r gwarediad o dan sylw, neu

(ii)ar yr un diwrnod â’r caffaeliad neu’r gwarediad hwnnw, a

(b)sy’n ymwneud â’r un mater â’r caffaeliad neu’r gwarediad hwnnw, neu fater o ddisgrifiad tebyg.

(2)At ddiben dyfarnu a yw contract neu gytundeb yn gontract neu’n gytundeb perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth o dan y contract neu’r cytundeb o dan sylw i’w thrin fel pe bai’n cynnwys y gydnabyddiaeth o dan unrhyw gontract neu gytundeb arall—

(a)yr ymrwymir iddo gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—

(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y contract neu’r cytundeb o dan sylw, neu

(ii)ar yr un diwrnod â’r contract neu’r cytundeb hwnnw, a

(b)sy’n ymwneud â’r un mater â’r contract neu’r cytundeb hwnnw, neu fater o ddisgrifiad tebyg.

(3)At ddiben dyfarnu a yw caffaeliad cyfalaf cyfranddaliadau neu gyfalaf benthyciad mewn corff corfforedig yn gaffaeliad cyfalaf perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth mewn cysylltiad â’r caffaeliad cyfalaf o dan sylw i’w thrin fel pe bai’n cynnwys y gydnabyddiaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gaffaeliad cyfalaf cyfranddaliadau neu gyfalaf benthyciad arall (ac eithrio caffaeliad cyfalaf benthyciad pan fo’r amodau a nodir ym mharagraffau (a) a (b) o baragraff 6(5) wedi eu bodloni)—

(a)a wneir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—

(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y caffaeliad cyfalaf o dan sylw, neu

(ii)ar yr un diwrnod â’r caffaeliad cyfalaf hwnnw, a

(b)a wneir yn yr un corff corfforedig â’r caffaeliad cyfalaf hwnnw.

(4)At ddiben dyfarnu a yw grant neu gymorth ariannol arall (ac eithrio benthyciad) yn grant neu’n gymorth ariannol arall perthnasol, mae swm y grant neu’r cymorth ariannol o dan sylw i’w drin fel pe bai’n cynnwys swm unrhyw grant neu gymorth ariannol arall (ac eithrio benthyciad)—

(a)a roddir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—

(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y grant neu’r cymorth ariannol o dan sylw, neu

(ii)ar yr un diwrnod â’r grant neu’r cymorth ariannol hwnnw, a

(b)a roddir i’r un person ag y rhoddir y grant neu’r cymorth ariannol hwnnw iddo.

(5)At ddiben dyfarnu a yw benthyciad yn fenthyciad perthnasol, mae swm y benthyciad o dan sylw i’w drin fel pe bai’n cynnwys swm unrhyw fenthyciad arall—

(a)a roddir gan y cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro naill ai—

(i)ar ôl y dyddiad perthnasol ond cyn y benthyciad o dan sylw, neu

(ii)ar yr un diwrnod â’r benthyciad hwnnw, a

(b)a roddir i’r un person ag y rhoddir y benthyciad hwnnw iddo.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “benthyciad” (“loan”) (ac eithrio yn “benthyciad perthnasol”) yw benthyciad—

    (a)

    pan fo cyfnod y benthyciad yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

    (b)

    pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r benthyciad;

  • mae “caffaeliad neu warediad tir” (“land acquisition or disposal”) yn cynnwys y pethau a nodir ym mharagraff 6(2);

  • ystyr “contract neu gytundeb” (“contract or agreement”) (ac eithrio yn “contract neu gytundeb perthnasol”, gweler paragraff 6(3) ynglŷn â hynny) yw—

    (a)

    unrhyw gontract, ac eithrio contract cyfalaf—

    (i)

    pan fo cyfnod y contract yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

    (ii)

    pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r contract;

    (b)

    unrhyw gontract cyfalaf (o fewn ystyr paragraff 6(4));

    (c)

    unrhyw gytundeb fframwaith o fewn ystyr rheoliad 33(2) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102)

    (i)

    pan fo cyfnod y cytundeb fframwaith yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

    (ii)

    pan ganiateir estyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r cytundeb fframwaith;

  • ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—

    (a)

    y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais i uno, neu

    (b)

    y dyddiad y rhoddir hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 12 para. 7 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)(m)(ii)

I14Atod. 12 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Trothwyon ariannol: darpariaeth bellachLL+C

8(1)Pan na fo’r gydnabyddiaeth mewn cysylltiad â thrafodiad, nac unrhyw ran ohoni, mewn arian, mae’r trothwyon a nodir ym mharagraff 6 yn gymwys i werth y gydnabyddiaeth.

(2)Wrth ddyfarnu a yw trothwy a nodir ym mharagraff 6 wedi ei groesi, pan fo cwestiwn yn codi ynglŷn â gwerth y gydnabyddiaeth mewn perthynas â thrafodiad a bod y personau o dan sylw yn methu â dod i gytundeb, mae Gweinidogion Cymru i benderfynu ar y cwestiwn at ddibenion y dyfarniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 12 para. 8 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Canllawiau mewn perthynas â thrafodiadau, recriwtio etc.LL+C

9(1)Rhaid i berson a bennir mewn cyfarwyddyd o dan baragraff 1 roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru (a gweler adran 146 mewn perthynas â chanllawiau a ddyroddir i brif gynghorau)—

(a)ynglŷn â gweithrediad paragraffau 1 i 8;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff 1;

(c)ar gyflawni gweithgareddau cyfyngedig;

(d)ar benodi a dynodi personau i swyddi cyfyngedig.

(2)At ddibenion is-baragraff (1), mae “gweithgareddau cyfyngedig” a “swyddi cyfyngedig” i’w dehongli yn unol â pharagraff 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 12 para. 9 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)