ATODLEN 11PWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

(a gyflwynir gan adran 136)

RHAN 1CYNGHORAU SY’N UNO

Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

1

(1)

Rhaid i gynghorau sy’n uno sefydlu pwyllgor pontio yn union ar ôl gwneud cais i uno.

(2)

Mae’r cyfeiriadau at bwyllgor pontio yn y Rhan hon o’r Atodlen hon yn gyfeiriadau at bwyllgor pontio a sefydlir o dan is-baragraff (1).

Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 11 para. 1 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Aelodaeth pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

2

(1)

Rhaid i bwyllgor pontio gynnwys nifer cyfartal o aelodau, heb fod yn llai na 5, o bob un o’r cynghorau sy’n uno.

(2)

Rhaid i aelodau cyngor sy’n uno sydd i fod yn aelodau o’r pwyllgor pontio gael eu penodi gan y cyngor sy’n uno.

(3)

Nifer aelodau’r pwyllgor sydd i’w penodi gan bob un o’r cynghorau sy’n uno yw’r nifer y cytunir arno gan y cynghorau sy’n uno neu, os na cheir cytundeb, y nifer y penderfyna Gweinidogion Cymru arno.

(4)

Rhaid i brif aelod gweithrediaeth y cyngor sy’n uno fod yn un o aelodau’r pwyllgor a benodir gan y cyngor sy’n uno.

(5)

Os nad yw eisoes wedi ei benodi o dan is-baragraff (4), rhaid i’r aelod gweithrediaeth yn y cyngor sy’n uno sy’n gyfrifol am gyllid gael ei benodi’n aelod o’r pwyllgor yn ogystal.

(6)

Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor ond ni chaiff y rhain bleidleisio.

(7)

Mae pwyllgor pontio i’w drin at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau awdurdodau lleol) fel corff sy’n dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno.

(8)

Yn y paragraff hwn ystyr “prif aelod gweithrediaeth”—

(a)

yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yw’r arweinydd gweithrediaeth;

(b)

yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, yw’r maer etholedig.

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Swyddogaethau pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

3

(1)

Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i’r cynghorau sy’n uno, ac i’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynglŷn ag—

(a)

hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau ac atebolrwyddau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd,

(b)

sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol o’r adeg pan fydd yn eu hysgwyddo, ac

(c)

unrhyw ddibenion eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor pontio.

(2)

Rhaid i bwyllgor pontio hefyd roi cyngor ag argymhellion i Weinidogion Cymru ar unrhyw fater a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor.

Annotations:
Commencement Information

I3Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

RHAN 2CYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

4

(1)

Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau gyngor neu ragor sy’n cael eu hailstrwythuro i sefydlu pwyllgor pontio.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â’r cyfarwyddyd.

RHAN 3PWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

5

(1)

Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.

(2)

Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a atgyfeirir i’r is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.

(3)

Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.

(4)

Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.

Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth etc. i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

6

(1)

Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro dalu costau pwyllgor pontio yn ôl y cyfrannau y cytunant arnynt neu, os na cheir cytundeb, y cyfrannau a ddyfernir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro ddarparu i bwyllgor pontio y cyfleusterau a’r adnoddau (gan gynnwys staff), y wybodaeth a’r dogfennau y gwna’r pwyllgor pontio (neu unrhyw is-bwyllgor i’r pwyllgor pontio) gais rhesymol amdanynt er mwyn ei alluogi i arfer ei swyddogaethau.

Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro: darpariaeth bellach

7

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo pwyllgor pontio i arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.

(2)

Ni chaiff pwyllgor llywodraethu ac archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—

mae i “pwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit committee”) yr ystyr a roddir gan adran 81 o Fesur 2011;

mae i “pwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr a roddir i “overview and scrutiny committee” gan adran 21(1) o Ddeddf 2000.

(3)

Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)

ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â pharagraff 1 neu yn rhinwedd paragraff 4;

(b)

mae cyfeiriad at gyngor sy’n uno mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n uno sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio;

(c)

mae cyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio.

F1(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .