xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 11LL+CPWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

RHAN 3LL+CPWYLLGORAU PONTIO CYNGHORAU SY’N UNO A CHYNGHORAU SY’N CAEL EU HAILSTRWYTHURO

Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuroLL+C

5(1)Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.

(2)Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a atgyfeirir i’r is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.

(3)Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.

(4)Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

I2Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(i)