7(1)Wrth gynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gynnal yr ymchwiliadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(2)Ar ôl cynnal yr ymchwiliadau o dan is-baragraff (1), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad interim sy’n cynnwys—
(a)ei gynigion o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol, a
(b)manylion yr adolygiad a gynhaliwyd ganddo.
(3)Rhaid i’r Comisiwn—
(a)anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,
(b)cyhoeddi’r adroddiad,
(c)rhoi gwybod i unrhyw berson y mae’n ystyried ei fod yn briodol sut i gael gafael ar yr adroddiad,
(d)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, ac
(e)hysbysu Gweinidogion Cymru, yr ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol am y cyfnod ar gyfer sylwadau.
(4)Pan anfonir adroddiad at brif gyngor o dan is-baragraff (3)(a), rhaid iddo—
(a)cyhoeddi’r adroddiad,
(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn ei swyddfeydd yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau, ac
(c)cymryd y camau y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud yr etholwyr llywodraeth leol yn ei ardal yn ymwybodol o—
(i)yr adroddiad,
(ii)sut i gael gafael ar yr adroddiad, a
(iii)y cyfnod ar gyfer sylwadau.
(5)At ddibenion is-baragraffau (3) a (4), ystyr “y cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na chwe wythnos, nac yn hwy na 12 wythnos (fel a bennir gan y Comisiwn) sy’n dechrau’n ddim cynharach nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod o dan is-baragraff (3)(e).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)