ATODLEN 1Adolygiadau cychwynnol o drefniadau etholiadol etc.
I17Ymchwilio ac adrodd interim
1
Wrth gynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gynnal yr ymchwiliadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
2
Ar ôl cynnal yr ymchwiliadau o dan is-baragraff (1), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad interim sy’n cynnwys—
a
ei gynigion o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol, a
b
manylion yr adolygiad a gynhaliwyd ganddo.
3
Rhaid i’r Comisiwn—
a
anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,
b
cyhoeddi’r adroddiad,
c
rhoi gwybod i unrhyw berson y mae’n ystyried ei fod yn briodol sut i gael gafael ar yr adroddiad,
d
gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, ac
e
hysbysu Gweinidogion Cymru, yr ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol am y cyfnod ar gyfer sylwadau.
4
Pan anfonir adroddiad at brif gyngor o dan is-baragraff (3)(a), rhaid iddo—
a
cyhoeddi’r adroddiad,
b
sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn ei swyddfeydd yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau, ac
c
cymryd y camau y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud yr etholwyr llywodraeth leol yn ei ardal yn ymwybodol o—
i
yr adroddiad,
ii
sut i gael gafael ar yr adroddiad, a
iii
y cyfnod ar gyfer sylwadau.
5
At ddibenion is-baragraffau (3) a (4), ystyr “y cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na chwe wythnos, nac yn hwy na 12 wythnos (fel a bennir gan y Comisiwn) sy’n dechrau’n ddim cynharach nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod o dan is-baragraff (3)(e).