xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adrannau 11 a 138)

ATODLEN 1LL+CAdolygiadau cychwynnol o drefniadau etholiadol etc.

Adolygiadau cychwynnolLL+C

1(1)At ddibenion y Ddeddf hon, “adolygiad cychwynnol” yw adolygiad a gynhelir gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) at ddiben argymell trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

(2)Mewn adolygiad cychwynnol caiff y Comisiwn hefyd argymell newidiadau canlyniadol perthnasol.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i unrhyw beth a bennir, o dan adran 11(3) neu 138(3), yn y cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal adolygiad cychwynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1(1)(2) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

I2Atod. 1 para. 1(3) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)

I3Atod. 1 para. 1(3) mewn grym ar 6.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 175(1)(f)(2)(k)(ii)(6)(b)

“Ardal sy’n cael ei hadolygu”LL+C

2(1)Yn yr Atodlen hon, mae “ardal sy’n cael ei hadolygu” i’w dehongli yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Pan fo’r Comisiwn yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 11 i gynnal adolygiad cychwynnol, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw ardal y prif gyngor sydd wedi arfer ei bŵer o dan adran 8 i newid y system bleidleisio sy’n gymwys i ethol ei gynghorwyr.

(3)Pan fo’r Comisiwn, ar ôl i Weinidogion Cymru gael cais i uno, yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r brif ardal newydd sydd i’w chyfansoddi, neu a gyfansoddir, gan reoliadau uno.

(4)Pan fo—

(a)ar ôl i Weinidogion Cymru hysbysu am eu cynigion fel a ddisgrifir yn adran 129(6), y Comisiwn yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol, a

(b)cynnig i drosglwyddo rhan o’r brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu y darperir ar gyfer hynny mewn rheoliadau ailstrwythuro,

yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r ardal a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 138.

(5)Pan fo—

(a)ar ôl i Weinidogion Cymru hysbysu am eu cynigion fel a ddisgrifir yn adran 129(6), y Comisiwn yn cael ei gyfarwyddo o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol, a

(b)bwriad i gyfansoddi prif ardal newydd, neu y darperir ar gyfer hynny mewn rheoliadau ailstrwythuro,

yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r brif ardal newydd sydd i’w chyfansoddi gan reoliadau ailstrwythuro.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 2(1)(3) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

I5Atod. 1 para. 2(2) mewn grym, gweler a. 175(2)(k)(iii)(6)(b)

Termau eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen honLL+C

3(1)Yn yr Atodlen hon—

(2)Yn is-baragraff (1), yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol”, mae’r cyfeiriadau at y math o ward yn gyfeiriadau at ba un a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod; ac at y diben hwn—

(3)Mae adran 149 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyron termau a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r ComisiwnLL+C

4(1)Rhaid i gyfarwyddyd o dan adran 11 neu 138 bennu erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru o dan baragraff 8(3)(a).

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan adran 11 neu 138 ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn roi sylw i faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cyffredinol ynglŷn â chynnal adolygiadau cychwynnol, gan gynnwys—

(a)cyfarwyddydau ynglŷn ag ym mha drefn y mae gwahanol adolygiadau cychwynnol sy’n ofynnol gan gyfarwyddydau o dan adran 11 neu 138 i’w cynnal ac ynglŷn ag a yw gwahanol adolygiadau i’w cynnal ar yr un pryd, a

(b)cyfarwyddydau sy’n pennu materion y mae rhaid i’r Comisiwn roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiadau cychwynnol.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)y Comisiwn, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i roi’r gorau i gynnal adolygiad cychwynnol, ac i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r adolygiad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad interim o dan baragraff 7(2) mewn perthynas ag ardal sy’n cael ei hadolygu, gyfarwyddo’r Comisiwn o dan adran 11 neu 138 i gynnal adolygiad cychwynnol arall mewn perthynas â’r un ardal.

(7)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chynnal adolygiadau cychwynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4(1)-(3)(6) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(k)(i)

I8Atod. 1 para. 4(1)-(3)(6) mewn grym ar 6.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 175(2)(k)(i)(6)(b)

I9Atod. 1 para. 4(4)(5)(7) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Cynnal adolygiad cychwynnolLL+C

5(1)Rhaid i’r Comisiwn, wrth ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu—

(a)ceisio sicrhau bod y gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer cynghorwyr y prif gyngor sydd i’w hethol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu yr un fath ym mhob ward etholiadol o ardal y cyngor, mor agos ag y gall fod, a

(b)rhoi sylw i—

(i)dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sy’n hawdd eu hadnabod ac y byddant yn parhau felly, a

(ii)dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(a) rhaid ystyried—

(a)unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a

(b)unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau yn union ar ôl i argymhellion gael eu gwneud.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion adolygiad cychwynnol, gyfarwyddo prif gyngor ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu neu gyngor ar gyfer cymuned mewn ardal sy’n cael ei hadolygu i ddarparu i’r Comisiwn unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 6—

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Y weithdrefn ragadolyguLL+C

6(1)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gymryd y camau y mae’n ystyried eu bod yn briodol—

(a)er mwyn gwneud yr ymgyngoreion gorfodol, ac unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn debygol bod ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad ac unrhyw gyfarwyddydau eraill a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad, a

(b)i ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ar y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ganddo ar gyfer yr adolygiad cychwynnol ac, yn benodol, ar sut y mae’n bwriadu penderfynu ar nifer priodol y cynghorwyr ar gyfer y prif gyngor yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

(2)Yn yr Atodlen hon, ystyr “yr ymgyngoreion gorfodol” yw—

(a)yn achos adolygiad cychwynnol a gynhelir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 11, prif gyngor yr ardal sy’n cael ei hadolygu;

(b)yn achos adolygiad cychwynnol a gynhelir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 138, y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro;

(c)y cynghorau ar gyfer y cymunedau presennol (os oes rhai) yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu;

(d)unrhyw bersonau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i gynnal adolygiad cychwynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6(1)(2)(c)(d) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

I12Atod. 1 para. 6(2)(a) mewn grym, gweler a. 175(2)(k)(iii)(6)(b)

I13Atod. 1 para. 6(2)(b) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)

Ymchwilio ac adrodd interimLL+C

7(1)Wrth gynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gynnal yr ymchwiliadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(2)Ar ôl cynnal yr ymchwiliadau o dan is-baragraff (1), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad interim sy’n cynnwys—

(a)ei gynigion o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol, a

(b)manylion yr adolygiad a gynhaliwyd ganddo.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,

(b)cyhoeddi’r adroddiad,

(c)rhoi gwybod i unrhyw berson y mae’n ystyried ei fod yn briodol sut i gael gafael ar yr adroddiad,

(d)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, ac

(e)hysbysu Gweinidogion Cymru, yr ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol am y cyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)Pan anfonir adroddiad at brif gyngor o dan is-baragraff (3)(a), rhaid iddo—

(a)cyhoeddi’r adroddiad,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn ei swyddfeydd yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau, ac

(c)cymryd y camau y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud yr etholwyr llywodraeth leol yn ei ardal yn ymwybodol o—

(i)yr adroddiad,

(ii)sut i gael gafael ar yr adroddiad, a

(iii)y cyfnod ar gyfer sylwadau.

(5)At ddibenion is-baragraffau (3) a (4), ystyr “y cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na chwe wythnos, nac yn hwy na 12 wythnos (fel a bennir gan y Comisiwn) sy’n dechrau’n ddim cynharach nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod o dan is-baragraff (3)(e).

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Adroddiad terfynolLL+C

8(1)Ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan baragraff 7(3) ddod i ben, rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.

(2)Yna rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad terfynol sy’n cynnwys—

(a)ei argymhellion o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw argymhellion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol,

(b)manylion yr adolygiad a gynhaliwyd ganddo, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion yn yr adroddiad interim a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd, ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyflwyno’r adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru,

(b)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol eraill ac at unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol,

(c)cyhoeddi’r adroddiad, a

(d)rhoi gwybod i unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad interim a gyhoeddwyd o dan baragraff 7, ac unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol, sut i gael gafael ar yr adroddiad.

(4)Pan anfonir adroddiad terfynol at brif gyngor o dan is-baragraff (3)(b), rhaid iddo—

(a)cyhoeddi’r adroddiad terfynol,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn ei swyddfeydd am chwe wythnos o leiaf ar ôl y dyddiad y cafodd y cyngor yr adroddiad, ac

(c)cymryd y camau y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud yr etholwyr llywodraeth leol yn ei ardal yn ymwybodol o’r adroddiad, a sut i gael gafael arno.

(5)Nid yw adran 29(8) o Ddeddf 2013 (dim argymhellion i gael eu gwneud na’u cyhoeddi yn y naw mis cyn etholiad cyffredin) yn gymwys yn achos argymhelliad a gynhwysir mewn adroddiad terfynol o dan is-baragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Pŵer i wneud rheoliadau pan wneir argymhellionLL+C

9(1)Ar ôl iddynt gael adroddiad terfynol o dan baragraff 8 sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad cychwynnol, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)gweithredu unrhyw argymhelliad a gynhwysir yn yr adroddiad, gydag addasiadau neu hebddynt;

(b)gwneud darpariaeth arall y maent yn ystyried ei bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol a’r newidiadau canlyniadol perthnasol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu at ddiben gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1), wneud y pethau a nodir ym mharagraff 5(1)(a) a (b) (ac mae paragraff 5(2) a (4) yn gymwys yn unol â hynny).

(3)Ni chaniateir gwneud unrhyw reoliadau o dan is-baragraff (1) nes bod y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoedda’r Comisiwn yr adroddiad o dan baragraff 8 wedi dod i ben.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ddarparu unrhyw wybodaeth bellach y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau pellach y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt mewn perthynas ag argymhellion y Comisiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Pŵer i wneud rheoliadau pan na wneir unrhyw argymhellionLL+C

10(1)Os nad yw’r Comisiwn wedi cyflwyno adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru o dan baragraff 8(3) erbyn y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol cynnal yr adolygiad cychwynnol, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-baragraff (2).

(2)Caiff rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn wneud y ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw ddarpariaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu at ddiben gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (2), wneud y pethau a nodir ym mharagraff 5(1)(a) a (b) (ac mae paragraff 5(2) a (4) yn gymwys yn unol â hynny).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt mewn perthynas ag unrhyw faterion sydd wedi dod i sylw’r Comisiwn o ganlyniad i—

(a)unrhyw gamau a gymerwyd o dan baragraff 6,

(b)unrhyw ymchwiliad o dan baragraff 7,

(c)llunio adroddiad o dan baragraff 7 neu 8, neu

(d)unrhyw beth arall a wnaed wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10: atodolLL+C

11(1)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion gwneud rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10 neu is-baragraff (3), gyfarwyddo prif gyngor ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu neu gyngor ar gyfer cymuned mewn ardal sy’n cael ei hadolygu i ddarparu unrhyw wybodaeth i Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu i ddarparu unrhyw ddogfennau i Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10 neu is-baragraff (3), anfon copi o’r rheoliadau i—

(a)y Comisiwn,

(b)y prif gyngor neu’r prif gynghorau ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu, ac

(c)y cynghorau cymuned ar gyfer cymunedau y mae newidiadau canlyniadol perthnasol wedi eu gwneud iddynt o dan y rheoliadau (os oes rhai).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan baragraff 9 neu 10 (neu’r is-baragraff hwn).

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Adolygiadau dilynol gan y Comisiwn pan wneir rheoliadau o dan baragraff 9(1)(b) neu 10(2)LL+C

12(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan baragraff 9(1)(b) neu 10(2) rhaid i’r Comisiwn—

(a)os yw’r rheoliadau yn deillio o gyfarwyddyd o dan adran 11 i gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal, gydymffurfio ag is-baragraff (2);

(b)os yw’r rheoliadau yn deillio o gyfarwyddyd o dan adran 138 i gynnal adolygiad cychwynnol o’r brif ardal gyfan neu ran ohoni, gydymffurfio ag is-baragraff (3).

(2)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2013 o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal—

(a)cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno y cymhwysir y system bleidleisio newydd ynddi, a

(b)pa un bynnag, cyn diwrnod yr etholiad cyffredin nesaf.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2013 o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal berthnasol—

(a)cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno wedi i’r rheoliadau ddod i rym, a

(b)pa un bynnag, cyn diwrnod yr etholiad cyffredin nesaf.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)yn is-baragraff (2), ystyr “y system bleidleisio newydd” yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr i’r cyngor o ganlyniad i arfer y pŵer i newid y system bleidleisio o dan adran 8;

(b)yn is-baragraff (3), ystyr “y brif ardal berthnasol” yw’r brif ardal yr oedd hi, neu unrhyw ran ohoni, yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 12(1)(a)(2)(4)(a) mewn grym, gweler a. 175(2)(k)(iii)(6)(b)

I20Atod. 1 para. 12(1)(b)(3)(4)(b) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Dirprwyo swyddogaethau gan y Comisiwn o dan yr Atodlen honLL+C

13Yn adran 13(1) o Ddeddf 2013—

(a)ar ôl “Ran 3” mewnosoder “o’r Ddeddf hon”;

(b)ar ôl “neu ymchwiliadau lleol)” mewnosoder “, neu Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Gorchmynion o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4)LL+C

14Yn adran 43 o Ddeddf 2013 (amrywio a dirymu gorchmynion), ar ôl is-adran (12) mewnosoder—

(12A)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddirymu gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 (ni waeth pa un a wnaethant hwy y gorchymyn ai peidio) o ganlyniad i reoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)