RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 4TREFNIADAU CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AR GYFER PRIF GYNGHORAU NEWYDD

142Cyfarwyddydau i F1Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo F2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru bod rhaid iddo gyflawni ei swyddogaethau taliadau a phensiynau mewn perthynas ag—

(a)

y cyngor cysgodol ar gyfer prif ardal newydd a sefydlir o dan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, a

(b)

y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, am y flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi.

(2)

At ddibenion is-adran (1), swyddogaethau taliadau a phensiynau y F3Comisiwn yw’r swyddogaethau o dan yr adrannau a ganlyn yn F4Rhan 5A o Ddeddf 2013

(a)

F5adran 69A (taliadau i aelodau), a

(b)

F6adran 69B (pensiynau aelodau).

(3)

Yn unol â hynny, mae F7Rhan 5A F8o Ddeddf 2013 yn gymwys yn achos cyngor y mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys iddo; ond o ran ei gymhwysiad yn rhinwedd yr is-adran hon mae F7Rhan 5A yn ddarostyngedig i—

(a)

is-adran (4), a

(b)

adran 143.

(4)

Pan fo F9Rhan 5A o Ddeddf 2013 yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3)—

(a)

mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol at ddibenion y Rhan honno,

(b)

caiff y Panel arfer ei swyddogaethau o dan F9Ran 5A o Ddeddf 2013 mewn perthynas â’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd cyn i’r cyngor gael ei sefydlu (gan gynnwys drwy osod gofyniad y bydd y cyngor yn ddarostyngedig iddo pan fydd wedi ei sefydlu); yn unol â hynny, at y dibenion hynny mae’r Rhan honno i’w darllen fel pe bai’r cyngor, cyn iddo gael ei sefydlu, yn awdurdod perthnasol,

(c)

pan na fo’r diwrnod trosglwyddo yn digwydd ar 1 Ebrill, mae’r cyfeiriadau yn F10adran 69A at flwyddyn ariannol yn cynnwys cyfeiriad at ran o’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi,

F11(d)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F12(e)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â phrif gyngor ar gyfer ardal sydd neu a oedd â chyngor cysgodol dynodedig, caiff y Panel, mewn perthynas â’r adegau cyn y bydd y cyngor wedi ei gyfansoddi o gynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf, ac ar ôl hynny—

(a)

gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1) o Fesur 2011;

(b)

gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3) o’r adran honno;

(c)

gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) o’r adran honno;

(d)

gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill gwahanol o dan is-adran (6) o’r adran honno;

(e)

gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3) o Fesur 2011.

143Adroddiadau gan y F13Comisiwn mewn perthynas â chynghorau cysgodol a phrif gynghorau newydd

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F14Rhan 5A o Ddeddf 2013 yn gymwys yn achos cyngor yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142.

(2)

Mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf o dan F15Ran 5A o Ddeddf 2013 sy’n ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd (“yr adroddiad cyntaf”)—

(a)

rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn ddim hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 142 at y diben hwnnw, a

(b)

caiff fod yn adroddiad blynyddol neu’n adroddiad atodol, yn ddarostyngedig i’r gofyniad a osodir yn rhinwedd paragraff (a) a’r gofynion o dan F16adrannau 69E(3) a 69I(1) a (2)(a) o Ddeddf 2013.

(3)

Nid yw adran F17adran 69I(2)(b) o Ddeddf 2013 (terfyn amser ar gyfer cyhoeddi) yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf os yw’n adroddiad atodol.

(4)

Pan fo unrhyw adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) ag—

(a)

y cyngor cysgodol, neu

(b)

y prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd ac na fydd y cyngor hwnnw wedi ei sefydlu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad,

rhaid i’r F18Comisiwn gymryd y cam a nodir yn is-adran (5).

(5)

Cyn cyhoeddi’r adroddiad o dan F19adran 69E o Ddeddf 2013 , rhaid i’r F20Comisiwn anfon drafft o’r adroddiad at y canlynol (os nad yw eisoes yn ofynnol i’r F20Comisiwn wneud hynny o dan F21adran 69G(1)(a) o Ddeddf 2013)—

(a)

y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd;

(b)

y cyngor cysgodol (os caiff ei sefydlu);

(c)

y personau (os oes rhai) a bennir at y diben hwnnw yn y cyfarwyddyd o dan adran 142.

(6)

Caiff adroddiad atodol osod y gofynion a ganlyn ar y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd, neu ar y cyngor cysgodol—

(a)

gofynion o fath a bennir yn F22adran 69J(1) o Ddeddf 2013;

(b)

gofynion o fath a bennir yn F23adran 69K(1) o Ddeddf 2013.

(7)

Pan fo adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol, mae F24adran 69J(2) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad hwnnw (i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud i’r cyngor cysgodol neu ganddo) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.

(8)

Mae’r cyfeiriadau yn F25adrannau 69L, 69N a 69P o Ddeddf 2013 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion a osodir gan adroddiad atodol yn rhinwedd yr adran hon.

(9)

Rhaid i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol bennu mewn perthynas â’r cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (pa un a yw’n gyngor cysgodol neu’n brif gyngor ar adeg cyhoeddi’r adroddiad) yr wybodaeth a grybwyllir yn F26adran 69E(4) o Ddeddf 2013.

(10)

Rhaid i’r materion y mae’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon ac adran 142 eu cynnwys mewn adroddiad gan y F27Comisiwn mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi gael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

(11)

Ond, os yw’r F28Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â pha ran bynnag o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.

144Canllawiau i’r F29Comisiwn

Rhaid i’r F29Comisiwn roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 142 a 143.

145Datganiadau ar bolisïau tâl

(1)

Rhaid i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ynglŷn â’r datganiad ar bolisïau tâl sydd i’w lunio gan y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.

(2)

Rhaid i’r argymhellion gael eu cyhoeddi yn ddim hwyrach na chwe wythnos cyn—

(a)

pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol etholedig, y dyddiad y mae etholiadau i’r cyngor cysgodol i’w cynnal, neu

(b)

pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol dynodedig, y dyddiad y mae’r cyngor cysgodol i’w sefydlu.

(3)

Rhaid i gyngor cysgodol lunio a chymeradwyo (ac fe gaiff ddiwygio) datganiad ar bolisïau tâl yn unol ag adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)

(a)

ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â chymeradwyo’r datganiad ar bolisïau tâl ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a

(b)

ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf pan fydd prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd.

(4)

Yn unol â hynny, mae adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5), 41(1) a (2) a 42(1) a (2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn gymwys; a phan fo’r darpariaethau hynny yn gymwys yn rhinwedd yr is-adran hon—

(a)

mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr Pennod 8 o Ran 1 o’r Ddeddf honno at ddibenion y darpariaethau hynny,

(b)

mae’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) i’w drin fel blwyddyn ariannol at ddibenion y darpariaethau hynny, ac

(c)

mae adran 39(5) o’r Ddeddf honno i’w darllen fel pe bai “on a website” wedi ei roi yn lle “on the authority’s website”.

(5)

Ni chaniateir i’r cyngor cysgodol benodi na dynodi unrhyw brif swyddog (o fewn yr ystyr a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) hyd nes y bydd y datganiad ar bolisïau tâl o dan is-adran (3) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.

F30(6)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(7)

Yn yr adran hon, ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir o dan Atodlen 11—

(a)

mewn perthynas â rheoliadau uno, neu

(b)

mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu y bydd cyngor cysgodol.