RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU SY’N GYSYLLTIEDIG AG UNO AC AILSTRWYTHURO
I1136Pwyllgorau pontio
Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sefydlu pwyllgorau pontio.
I2137Cyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio
Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio.
I3138Adolygiadau o drefniadau etholiadol
1
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gynnal adolygiad cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar ôl i Weinidogion Cymru—
I3a
cael cais i uno, neu
b
rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).
I32
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
a
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a
b
unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
3
Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol mewn perthynas â chynnig i drosglwyddo rhan o brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu ar gyfer trosglwyddiad o’r fath—
a
rhaid iddo bennu’r ardal (a gaiff fod yn brif ardal gyfan neu’n rhan ohoni) sydd i fod yn destun yr adolygiad cychwynnol, a
b
caiff bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir yn is-baragraff (i) neu (ii) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—
i
y materion a nodir yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1;
ii
y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” yn y paragraff hwnnw.
I34
Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.
I35
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.
I36
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) o adran 29 o Ddeddf 2013 (adolygiadau cyfnodol o drefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd) drwy reoliadau.
I4I5139Gwahardd gwneud newidiadau i drefniadau gweithrediaeth
I41
Ar ôl cael cais i uno caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
a
hyd nes y bo rheoliadau uno sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
b
hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 121(5).
2
Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
a
hyd nes y bo rheoliadau ailstrwythuro sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
b
hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 134(3).
I53
Tra bo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) neu (2) yn cael effaith mewn perthynas â chyngor, nid yw’r cyngor yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, i gymryd camau i newid ffurf ei weithrediaeth.
I6I7140Gofyniad ar brif gynghorau i ddarparu gwybodaeth etc. i Weinidogion Cymru
1
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt—
I6a
at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
I7b
at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
I7c
fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
2
Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i Weinidogion Cymru fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
I8141Gofyniad ar brif gynghorau i ddarparu gwybodaeth etc. i gyrff eraill
I81
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i gorff perthnasol—
a
at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
b
at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
c
fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
I82
Mae’r cyrff a ganlyn yn gyrff perthnasol—
a
unrhyw brif gyngor arall (gan gynnwys cyngor B) y bydd unrhyw reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â chyngor A yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal;
b
unrhyw bwyllgor pontio a sefydlir gan gyngor A (gweler Atodlen 11);
c
os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi, y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
3
Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu i gorff perthnasol arall neu gyngor A unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).