xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Perfformiad

89Dyletswydd ar brif gyngor i adolygu ei berfformiad yn barhaus

(1)Rhaid i brif gyngor adolygu’n barhaus i ba raddau—

(a)y mae’n arfer ei swyddogaethau yn effeithiol,

(b)y mae’n defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol, ac

(c)y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol o ran cyflawni’r materion a nodir ym mharagraffau (a) a (b).

(2)Yn y Bennod hon, cyfeirir at y materion a nodir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) fel “y gofynion perfformiad”.

(3)Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag—

(a)y gofynion perfformiad;

(b)y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon.

90Dyletswydd i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiad

Rhaid i brif gyngor ymgynghori â’r canlynol o bryd i’w gilydd, ac o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ariannol, ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—

(a)pobl leol,

(b)personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,

(c)staff y cyngor, a

(d)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.

Hunanasesiadau o berfformiad

91Dyletswydd ar brif gyngor i adrodd ar ei berfformiad

(1)Rhaid i brif gyngor, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad sy’n nodi ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth fodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

(2)Yn yr adran hon, cyfeirir at adroddiad o dan is-adran (1) fel “adroddiad hunanasesu”.

(3)Rhaid i adroddiad hunanasesu prif gyngor nodi unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd, ac unrhyw gamau y mae eisoes wedi eu cymryd, gyda’r nod o gynyddu’r graddau y bydd yn bodloni’r gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4)Rhaid i adroddiad hunanasesu (ac eithrio adroddiad hunanasesu cyntaf prif gyngor) gynnwys casgliadau’r cyngor ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth unrhyw gamau a gynhwyswyd yn rhinwedd is-adran (3) yn adroddiad blaenorol y cyngor gynyddu’r graddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad hunanasesu yn ymwneud â hi.

(5)Wrth ddod i’r casgliadau yn ei adroddiad hunanasesu rhaid i gyngor ystyried safbwyntiau’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 90 (pa un a gafwyd y safbwyntiau hynny o dan adran 90 neu fel arall) ynglŷn ag i ba raddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(6)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’i adroddiad hunanasesu ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(7)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r adroddiad drafft a chaiff argymell newidiadau i’r casgliadau, neu i unrhyw beth a gynhwysir yn rhinwedd is-adran (3), yn y fersiwn ddrafft.

(8)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (7), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr adroddiad, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.

(9)Rhaid i’r cyngor wneud adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.

(10)Cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyngor yn llunio’r adroddiad rhaid i’r cyngor—

(a)cyhoeddi’r adroddiad,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, ac

(c)anfon yr adroddiad at—

(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(ii)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(iii)Gweinidogion Cymru.

(11)Caiff cyngor gyhoeddi ei adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a’i adroddiad o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (cynnydd tuag at gyflawni amcanion llesiant) mewn cysylltiad â’r un flwyddyn ariannol yn yr un ddogfen.

Asesiadau panel o berfformiad

92Dyletswydd ar brif gyngor i drefnu asesiad perfformiad gan banel

(1)Rhaid i brif gyngor wneud trefniadau fel bod panel a benodir gan y cyngor, o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, yn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Yn yr adran hon, cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) fel “asesiad perfformiad gan banel”.

(3)Wrth gynnal asesiad perfformiad gan banel mewn cysylltiad â chyngor, rhaid i banel ymgynghori â’r canlynol ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—

(a)pobl leol,

(b)personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,

(c)staff y cyngor, a

(d)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.

(4)Yn dilyn asesiad perfformiad gan banel rhaid i banel lunio adroddiad sy’n nodi—

(a)ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad;

(b)unrhyw gamau y mae’r panel yn argymell bod y cyngor yn eu cymryd er mwyn cynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud yr adroddiad rhaid i’r panel ei anfon—

(a)i’r cyngor,

(b)at Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(c)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(d)at Weinidogion Cymru.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr adroddiad gan y panel, rhaid i’r cyngor—

(a)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, a

(b)cyhoeddi’r adroddiad.

(7)Rhaid i drefniadau o dan is-adran (1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un adroddiad cyn y diwrnod sydd chwe mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.

(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at banel yn gyfeiriad at aelodau’r panel hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth y mynegir ei bod yn swyddogaeth i banel yn swyddogaeth sy’n perthyn i bob aelod o’r panel na chaniateir ei harfer oni fo’n cael ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.

93Dyletswydd ar brif gyngor i ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel

(1)Rhaid i brif gyngor lunio ymateb i bob adroddiad a wneir o dan adran 92(4) mewn cysylltiad â’r cyngor.

(2)Rhaid i’r ymateb ddatgan—

(a)i ba raddau y mae’r cyngor yn derbyn y casgliadau yn yr adroddiad ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad,

(b)i ba raddau y mae’r cyngor yn bwriadu dilyn unrhyw argymhellion sydd yn yr adroddiad, ac

(c)unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

(3)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’r ymateb ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(4)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r ymateb drafft a chaiff wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r datganiadau a wneir yn y fersiwn ddrafft o dan is-adran (2).

(5)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (4), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr ymateb, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio’r ymateb terfynol rhaid i’r cyngor—

(a)cyhoeddi’r ymateb, a

(b)anfon yr ymateb at—

(i)aelodau’r panel,

(ii)Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(iii)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(iv)Gweinidogion Cymru.

(7)Rhaid i drefniadau o dan adran 92(1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un ymateb i adroddiad cyn y diwrnod sydd bedwar mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.

94Asesiadau perfformiad gan baneli: rheoliadau atodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer penodi paneli gan brif gynghorau o dan adran 92(1), ac mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—

(a)penodi aelodau o banel (gan gynnwys nifer, ac unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir neu y mae rhaid eu penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer penodi);

(b)talu ffioedd i aelodau o banel neu mewn perthynas â hwy.

Arolygiadau arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

95Pŵer yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal arolygiad arbennig

(1)Os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (“yr Archwilydd Cyffredinol”) yn ystyried bod prif gyngor yn methu, neu y gallai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, caiff yr Archwilydd Cyffredinol gynnal arolygiad er mwyn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion hynny.

(2)Yn y Bennod hon, cyfeirir at arolygiad o dan is-adran (1) fel “arolygiad arbennig”.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ofyn i’r Archwilydd Cyffredinol ystyried—

(a)a yw prif gyngor penodol yn methu, neu a allai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, a

(b)cynnal arolygiad arbennig.

(4)Cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad arbennig o brif gyngor, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â Gweinidogion Cymru, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cais o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r cyngor.

(5)Cyn cynnal arolygiad arbennig o brif gyngor rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r cyngor sy’n pennu—

(a)rhesymau’r Archwilydd Cyffredinol dros ystyried bod y cyngor yn methu, neu y gallai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, a

(b)y materion y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu eu harolygu (ond nid yw’r Archwilydd Cyffredinol wedi ei gyfyngu i arolygu’r materion a bennir yn yr hysbysiad yn unig).

(6)Yn dilyn arolygiad arbennig o gyngor rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol lunio adroddiad sy’n nodi—

(a)casgliadau’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, a

(b)unrhyw gamau y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn argymell bod y cyngor neu Weinidogion Cymru yn eu cymryd at ddibenion—

(i)cynyddu’r graddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad;

(ii)gwella effeithiolrwydd llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor.

(7)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)cyhoeddi’r adroddiad, a

(b)anfon yr adroddiad—

(i)i’r cyngor,

(ii)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(iii)at Weinidogion Cymru.

(8)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol rhaid i’r cyngor sicrhau ei fod ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(9)Os yw adroddiad yn ymdrin â’r modd y mae’r cyngor yn gweinyddu budd-dal tai, caiff yr Archwilydd Cyffredinol anfon yr adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol.

96Dyletswydd ar brif gyngor i ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

(1)Os yw adroddiad a lunnir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6) yn cynnwys argymhellion o dan adran 95(6)(b) i brif gyngor gymryd camau, rhaid i’r cyngor lunio ymateb i’r argymhellion.

(2)Rhaid i’r ymateb ddatgan pa gamau, os oes rhai, y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion.

(3)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’r ymateb ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(4)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r ymateb drafft a chaiff wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r datganiad a wneir yn y fersiwn ddrafft o dan is-adran (2).

(5)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (4), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr ymateb, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.

(6)Rhaid i’r cyngor anfon yr ymateb at yr Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd—

(a)y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyngor yn cael adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei bennu mewn ysgrifen.

(7)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl anfon yr ymateb at yr Archwilydd Cyffredinol rhaid i’r cyngor—

(a)cyhoeddi’r ymateb, a

(b)anfon yr ymateb at—

(i)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(ii)Gweinidogion Cymru.

97Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

(1)Os yw adroddiad a lunnir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6) yn cynnwys argymhellion o dan adran 95(6)(b) i Weinidogion Cymru gymryd camau, rhaid i Weinidogion Cymru lunio ymateb i’r argymhellion.

(2)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r ymateb, a

(b)anfon yr ymateb—

(i)at yr Archwilydd Cyffredinol,

(ii)i’r prif gyngor y mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ymwneud ag ef, a

(iii)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

98Pwerau mynediad ac arolygu etc. Yr Archwilydd Cyffredinol

(1)Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg resymol, fynd i unrhyw fangre prif gyngor a gwneud unrhyw beth y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw, gan gynnwys arolygu dogfen y mae’r cyngor yn ei dal.

(2)Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor ddarparu i’r arolygydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw—

(a)dogfen y mae’r cyngor yn ei dal;

(b)cyfleusterau a chymorth.

(3)Os yw arolygydd yn ystyried y gallai person ddarparu gwybodaeth, eglurhad neu ddogfen y mae’r arolygydd yn ystyried ei bod neu ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddod gerbron yr arolygydd ar unrhyw adeg resymol i ddarparu’r wybodaeth, yr eglurhad neu’r ddogfen.

(4)Caiff arolygydd—

(a)gwneud copïau o ddogfen a arolygir o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd o dan is-adran (2)(a) neu (3);

(b)ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor ddarparu i’r arolygydd gopi darllenadwy, gan gynnwys copi electronig darllenadwy, o ddogfen a arolygir o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd o dan is-adran (2)(a);

(c)cadw dogfen a arolygir o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd o dan is-adran (2)(a) neu (3), ond dim ond am ba hyd bynnag y bo’n angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad arbennig.

(5)Yn yr adran hon ac yn adrannau 99 a 100, ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru neu berson sy’n arfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y Bennod hon yn rhinwedd dirprwyad a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3).

99Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: rhybudd a thystiolaeth adnabod

(1)Ni chaiff arolygydd fynd i fangre prif gyngor wrth arfer y pwerau o dan adran 98(1) (pwerau i fynd i fangre cyngor a gwneud pethau at ddibenion arolygiad arbennig)—

(a)oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r cyngor, a

(b)oni cheir o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre.

(2)Ni chaiff arolygydd arfer y pwerau o dan adran 98(2) (pwerau i’w gwneud yn ofynnol darparu dogfennau, cyfleusterau a chymorth)—

(a)oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r cyngor, a

(b)oni cheir o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r cyngor ddarparu’r ddogfen, y cyfleusterau neu’r cymorth.

(3)Nid yw’r gofynion yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i brif gyngor yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw.

(4)Ni chaiff arolygydd arfer y pŵer o dan adran 98(3) (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bersonau ddod gerbron arolygydd)—

(a)oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r person, a

(b)oni cheir, rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r person ddod gerbron yr arolygydd—

(i)o leiaf dri diwrnod gwaith os yw’r person yn aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor, neu

(ii)o leiaf saith niwrnod gwaith mewn unrhyw achos arall.

(5)Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (1) neu (2) i brif gyngor drwy—

(a)gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa’r cyngor;

(b)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa’r cyngor;

(c)anfon y rhybudd i unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r cyngor wedi ei bennu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion cael rhybuddion o dan yr adran hon.

(6)Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (4) i aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor drwy—

(a)gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa’r cyngor;

(b)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa’r cyngor;

(c)rhoi’r rhybudd drwy law’r person;

(d)gadael y rhybudd ym mhreswylfa hysbys olaf y person;

(e)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i breswylfa hysbys olaf y person.

(7)Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (4) i berson ac eithrio aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor drwy—

(a)rhoi’r rhybudd drwy law’r person;

(b)gadael y rhybudd ym mhreswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person;

(c)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i breswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person.

(8)Rhaid i’r arolygydd ddangos tystiolaeth ei fod yn arolygydd os yw person y mae’r arolygydd yn ceisio arfer pŵer yn ei gylch o dan adran 98 yn gofyn iddo wneud hynny (ac os nad yw’r arolygydd yn dangos y dystiolaeth honno nid yw’r pŵer yn arferadwy).

100Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: troseddau

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 98(2), (3) neu (4)(b), heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol arolygydd rhag arfer neu geisio arfer pŵer o dan adran 98(1) neu (4)(a) neu (c) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r treuliau rhesymol yr aeth arolygydd iddynt mewn achos ar gyfer trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni mewn perthynas ag arolygiad arbennig, i’r graddau nad ydynt yn adenilladwy o unrhyw ffynhonnell arall, yn adenilladwy gan y prif gyngor y mae’r arolygiad arbennig yn ymwneud ag ef.

101Ffioedd yr Archwilydd Cyffredinol

(1)Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ragnodi graddfa ffioedd mewn cysylltiad ag arolygiadau arbennig.

(2)Rhaid i brif gyngor y cynhelir arolygiad arbennig mewn cysylltiad ag ef, yn ddarostyngedig i is-adran (3), dalu i Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a lunnir o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), y ffi sy’n daladwy o dan y raddfa a ragnodir o dan is-adran (1).

(3)Os yw’n ymddangos i Swyddfa Archwilio Cymru bod y gwaith a oedd yn gysylltiedig ag arolygiad arbennig penodol yn sylweddol fwy neu’n sylweddol lai na’r hyn a ragwelwyd gan y raddfa a ragnodir o dan is-adran (1), caiff Swyddfa Archwilio Cymru godi ffi sy’n fwy neu’n llai na’r hyn a grybwyllir yn is-adran (2).

(4)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn cynnal y gweithgaredd y mae’n ymwneud ag ef.

(5)Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymgynghori ag—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Cefnogaeth a chymorth i wella perfformiad

102Cefnogaeth a chymorth gan Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw gefnogaeth a chymorth i brif gyngor y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Caiff prif gyngor ofyn i Weinidogion Cymru ystyried darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor o dan is-adran (1).

(3)Cyn darparu cefnogaeth a chymorth i brif gyngor o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyngor ynglŷn â’r gefnogaeth a’r cymorth y maent yn bwriadu eu darparu.

(4)Mae’r swyddogaeth yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall ag unrhyw berson;

(b)i gydweithredu ag unrhyw berson, neu i hwyluso neu gydgysylltu gweithgareddau unrhyw berson;

(c)i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau neu ystafelloedd i unrhyw berson.

103Cyfarwyddyd i brif gyngor ddarparu cefnogaeth a chymorth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu i brif gyngor arall (“y cyngor a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Rhaid i’r gefnogaeth a’r cymorth sydd i’w darparu gael eu pennu yn y cyfarwyddyd.

(3)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau gyngor.

(4)Mae’r gefnogaeth a’r cymorth y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i’w darparu yn cynnwys—

(a)ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall â’r cyngor a gefnogir (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau);

(b)cydweithredu â’r cyngor a gefnogir, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;

(c)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau neu ystafelloedd i’r cyngor a gefnogir.

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

104Pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ymyrryd i brif gyngor neu mewn perthynas â phrif gyngor os ydynt yn ystyried—

(a)ei bod yn debygol nad yw’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, neu

(b)nad yw’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd ymyrryd rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)darparu neu geisio darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor (a all gynnwys cyfarwyddo cyngor arall o dan adran 103),

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, ac

(c)hysbysu’r cyngor eu bod yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd.

(3)Nid yw gofyniad ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen brys i roi’r cyfarwyddyd a bod cymaint o frys fel y byddai’n briodol gwneud hynny heb gymryd y cam a nodir yn y paragraff.

(4)Yn yr adran hon ystyr “cyfarwyddyd ymyrryd” yw cyfarwyddyd o dan adran 105, 106 neu 107; ac mae’r adrannau hynny yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) i (3) o’r adran hon.

105Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”) i gydweithredu ag—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)prif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103,

at ddibenion galluogi darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor a gefnogir.

(2)Pan fydd cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn cael effaith rhaid i’r cyngor a gefnogir ddarparu i berson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) y pethau a ganlyn, i’r graddau y bo’r person yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor—

(a)mynediad at ei fangreoedd;

(b)mynediad at y dogfennau a gedwir ganddo (a rhaid i’r cyngor a gefnogir ganiatáu i’r person gymryd copïau o’r dogfennau hynny);

(c)gwybodaeth arall;

(d)cyfleusterau a chymorth.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor ddarparu, neu ddarparu mynediad at, unrhyw beth y mae’r cyngor wedi ei wahardd rhag ei ddarparu neu ddarparu mynediad ato gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gyngor a gefnogir gydweithredu â pherson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) drwy gymryd camau a bennir yn y cyfarwyddyd, gan gynnwys—

(a)ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau) â’r person hwnnw;

(b)caniatáu i’r person hwnnw hwyluso neu gydgysylltu unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r cyngor.

(5)Yn is-adran (1)(a) a (b), mae’r cyfeiriadau at Weinidogion Cymru a phrif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103 yn cynnwys person sy’n gweithredu ar eu rhan, yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.

106Cyfarwyddyd i gymryd cam penodedig neu i gadw rhag ei gymryd etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—

(a)i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y cam o fewn iddo);

(b)i gadw rhag cymryd cam penodedig;

(c)i roi’r gorau i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid i’r cyngor roi’r gorau i gymryd y cam o fewn iddo).

(2)Mae’r camau y caiff cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gyngor eu cymryd yn cynnwys ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall—

(a)gyda pherson penodedig;

(b)gyda pherson o ddisgrifiad penodedig;

(c)at ddibenion penodedig;

(d)ar delerau ac amodau penodedig.

(3)Yn yr adran hon mae “penodedig” yn golygu penodedig yn y cyfarwyddyd.

107Cyfarwyddyd bod swyddogaeth i’w chyflawni gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod swyddogaeth benodedig prif gyngor i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu gan berson a enwebir ganddynt.

(2)Pan fydd cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn cael effaith rhaid i’r prif gyngor—

(a)cydymffurfio â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth benodedig;

(b)darparu i Weinidogion Cymru neu eu henwebai y pethau a ganlyn, i’r graddau y bo Gweinidogion Cymru neu eu henwebai yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arfer y swyddogaeth benodedig—

(i)mynediad at ei fangreoedd;

(ii)mynediad at ddogfennau a gedwir ganddo (a rhaid i’r prif gyngor ganiatáu i Weinidogion Cymru neu eu henwebai gymryd copïau o’r dogfennau hynny);

(iii)gwybodaeth arall;

(iv)cyfleusterau a chymorth;

(c)cymryd unrhyw gamau penodedig.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, gymhwyso deddfiad gydag addasiadau, neu ddatgymhwyso deddfiad, mewn perthynas â swyddogaethau sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai yn rhinwedd cyfarwyddyd o fewn yr adran hon.

(4)Yn is-adran (2) mae’r cyfeiriadau at Weinidogion Cymru a’u henwebai yn cynnwys person sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru neu eu henwebai, yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.

(5)Yn yr adran hon mae “penodedig” yn golygu penodedig yn y cyfarwyddyd.

Atodol

108Arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon

(1)Caniateir i swyddogaeth a roddir i brif gyngor o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon (ac eithrio swyddogaethau a roddir yn benodol i bwyllgor llywodraethu ac archwilio) gael ei harfer gan y cyngor neu gan ei weithrediaeth, yn unol â phenderfyniad y cyngor.

(2)Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y cyngor, nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

(3)Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y weithrediaeth, nid yw adran 14 nac (yn ôl y digwydd) adran 15 o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gan weithrediaethau) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.

(4)Y swyddogaethau yw—

(a)adran 91(1) (adroddiad hunanasesu);

(b)adran 91(8) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag adroddiad);

(c)adran 92(1) (penodi panel asesiad perfformiad);

(d)adran 93(1) (ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);

(e)adran 93(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i adroddiad gan banel);

(f)adran 96(1) (ymateb i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(g)adran 96(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(h)adran 102(2) (cais i Weinidogion Cymru am gefnogaeth a chymorth).

109Pŵer Gweinidogion Cymru i ychwanegu at y rhestr o bersonau y mae rhaid anfon adroddiadau etc. atynt

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r darpariaethau a ganlyn er mwyn ychwanegu person at y rhestrau yn y darpariaethau hynny—

(a)adran 91(10)(c) (adroddiad hunanasesu);

(b)adran 92(5) (adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);

(c)adran 93(6)(b) (ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);

(d)adran 95(7)(b) (adroddiad ar arolygiad arbennig);

(e)adran 96(7)(b) (ymateb prif gyngor i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(f)adran 97(2)(b) (ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru).

110Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio etc. ddeddfiadau a rhoi pwerau newydd

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod deddfiad (ac eithrio darpariaeth yn y Bennod hon) yn atal neu’n rhwystro prif gyngor rhag cydymffurfio â’r Bennod hon, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso’r deddfiad hwnnw mewn perthynas ag—

(a)pob prif gyngor,

(b)prif gynghorau penodol, neu

(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n rhoi i—

(a)pob prif gyngor,

(b)prif gynghorau penodol, neu

(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol,

unrhyw bŵer y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn caniatáu i brif gyngor gydymffurfio â’r Bennod hon, neu sy’n hwyluso hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) osod amodau ar arfer unrhyw bŵer a roddir gan y rheoliadau (gan gynnwys amodau ynglŷn ag ymgynghori neu gymeradwyo).

111Canllawiau

(1)Rhaid i berson sydd â swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Bennod hon sy’n ymwneud ag asesu i ba raddau y mae prif gyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, rhaid i berson roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r gofynion perfformiad.

(3)Nid yw gofynion yr adran hon yn gymwys i—

(a)Archwilydd Cyffredinol Cymru neu berson sy’n arfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y Bennod hon (yn rhinwedd dirprwyad a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3));

(b)prif gyngor (gweler adran 89(3) sy’n ymdrin â chanllawiau i brif gynghorau).

112Dehongli

Yn y Bennod hon—

Diwygio deddfiadau eraill

113Datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau a diddymu darpariaethau ynglŷn â chydlynu archwiliad

Ym Mesur 2009 hepgorer—

(a)adran 1(a) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);

(b)adran 4(3)(a) (agweddau ar wella);

(c)adran 11(1)(b) a (2) (ystyr “pwerau cydlafurio”);

(d)adran 16(2)(a) a (b) (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”);

(e)adran 22(5) (adroddiadau am arolygiadau arbennig sy’n ymwneud â budd-dal tai);

(f)adran 23 (cydlynu archwiliad);

(g)adran 25(4)(d) (datganiad o arfer gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(h)adran 33 (rhannu gwybodaeth); ac o ganlyniad, yn adran 159 o’r Ddeddf hon hepgorer is-adran (10).

114Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.

Pwyllgorau llywodraethu ac archwilio prif gynghorau

115Enw newydd ar bwyllgorau archwilio a’u swyddogaethau newydd

(1)Mae adran 81 o Fesur 2011 (awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau archwilio) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “(“pwyllgor archwilio”)” rhodder “(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)”.

(3)Ym mharagraff (c) o is-adran (1), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, asesu perfformiad”.

(4)Ar ôl paragraff (d) o is-adran (1) mewnosoder—

(da)i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(db)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,.

(5)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.

(6)Mae Atodlen 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO: AELODAETH A THRAFODION

116Aelodaeth o bwyllgor llywodraethu ac archwilio

(1)Mae adran 82 o Fesur 2011 (aelodaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a) hepgorer y geiriau “o leiaf”;

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;.

(3)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—

(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a

(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).

(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.

(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.

(4)Hepgorer is-adran (6).

(5)Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraff 4(b)(ii) ac (f).

117Ystyr lleygwr

Yn adran 87 o Fesur 2011 (dehongli), yn is-adran (2) hepgorer y diffiniad o “aelod lleyg” a mewnosoder—

118Trafodion etc.

(1)Mae adran 83 o Fesur 2011 (trafodion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle is-adrannau (1) a (2) rhodder—

(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.

(3)Hepgorer is-adran (8).

(4)Yn Atodlen 6 i’r Ddeddf hon (cynorthwywyr gweithrediaethau), hepgorer paragraff 6(5).

(5)Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraffau 5(a) a (b).

PENNOD 3CYDGYSYLLTU RHWNG RHEOLEIDDWYR

119Cydgysylltu rhwng rheoleiddwyr

(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol roi sylw i’r angen am gydgysylltu wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.

(2)Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen mewn perthynas â phob prif gyngor sy’n nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag ar ba ddyddiadau neu yn ystod pa gyfnodau yn y flwyddyn honno—

(a)y dylai’r rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â’r cyngor, a

(b)y dylai’r Archwilydd Cyffredinol arfer swyddogaethau perthnasol yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â’r cyngor hwnnw.

(3)Cyn llunio amserlen o dan is-adran (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â’r rheoleiddwyr perthnasol.

(4)Caniateir i’r ddyletswydd o dan is-adran (2) gael ei chyflawni drwy lunio amserlen sy’n ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol.

(5)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â phrif gyngor, gymryd pob cam rhesymol i gadw at yr amserlen a lunnir mewn perthynas â’r cyngor hwnnw o dan is-adran (2).

(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynorthwyo’r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (5).

(7)Yn yr adran hon, mae i “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol” yr ystyron a roddir yn adran 120.

120“Rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”

(1)At ddibenion adran 119 swyddogaethau perthnasol Archwilydd Cyffredinol Cymru yw—

(a)archwilio cyfrifon prif gyngor o dan Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23);

(b)cynnal astudiaeth o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 mewn perthynas â phrif gyngor;

(c)cynnal ymchwiliad o brif gyngor o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(2)At ddibenion adran 119, rheoleiddiwr perthnasol yw person a grybwyllir yng ngholofn gyntaf tabl 1 a’i swyddogaethau perthnasol yw’r swyddogaethau a bennir yn yr ail golofn.

TABL 1
Rheoleiddwyr perthnasolSwyddogaethau perthnasol
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng NghymruSwyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu swyddogaethau addysg etc.)
Gweinidogion CymruSwyddogaethau o dan adran 149A ac adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (adolygiadau etc. o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio tabl 1 er mwyn—

(a)ychwanegu cofnod;

(b)diwygio cofnod;

(c)hepgor cofnod.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy;

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(c)y person y bydd cofnod newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud ag ef.