RHAN 6LL+CPERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU [F1A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG] A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO: AELODAETH A THRAFODION

116Aelodaeth o bwyllgor llywodraethu ac archwilioLL+C

(1)Mae adran 82 o Fesur 2011 (aelodaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a) hepgorer y geiriau “o leiaf”;

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;.

(3)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—

(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a

(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).

(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.

(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.

(4)Hepgorer is-adran (6).

(5)Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraff 4(b)(ii) ac (f).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 116 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/297, ergl. 3(b)

117Ystyr lleygwrLL+C

Yn adran 87 o Fesur 2011 (dehongli), yn is-adran (2) hepgorer y diffiniad o “aelod lleyg” a mewnosoder—

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I4A. 117 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/297, ergl. 3(b)

118Trafodion etc.LL+C

(1)Mae adran 83 o Fesur 2011 (trafodion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle is-adrannau (1) a (2) rhodder—

(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.

(3)Hepgorer is-adran (8).

(4)Yn Atodlen 6 i’r Ddeddf hon (cynorthwywyr gweithrediaethau), hepgorer paragraff 6(5).

(5)Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraffau 5(a) a (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I6A. 118 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/297, ergl. 3(b)