RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO: AELODAETH A THRAFODION

116Aelodaeth o bwyllgor llywodraethu ac archwilio

(1)

Mae adran 82 o Fesur 2011 (aelodaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adran (2)—

(a)

ym mharagraff (a) hepgorer y geiriau “o leiaf”;

(b)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(b)

bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;”.

(3)

Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

“(5A)

Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—

(a)

aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a

(b)

aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).

(5B)

Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.

(5C)

Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.”

(4)

Hepgorer is-adran (6).

(5)

Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraff 4(b)(ii) ac (f).

117Ystyr lleygwr

Yn adran 87 o Fesur 2011 (dehongli), yn is-adran (2) hepgorer y diffiniad o “aelod lleyg” a mewnosoder—

““ystyr “lleygwr” (“lay person”) yw person—

(a)

nad yw’n aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol,

(b)

nad yw, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dod i ben â’r dyddiad y penodir y person hwnnw, wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol, ac

(c)

nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod na swyddog o unrhyw awdurdod lleol;”

118Trafodion etc.

(1)

Mae adran 83 o Fesur 2011 (trafodion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn lle is-adrannau (1) a (2) rhodder—

“(1)

Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)

gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)

os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)

Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.”

(3)

Hepgorer is-adran (8).

(4)

Yn Atodlen 6 i’r Ddeddf hon (cynorthwywyr gweithrediaethau), hepgorer paragraff 6(5).

(5)

Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraffau 5(a) a (b).