RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

104Pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ymyrryd i brif gyngor neu mewn perthynas â phrif gyngor os ydynt yn ystyried—

a

ei bod yn debygol nad yw’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, neu

b

nad yw’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.

2

Ond cyn rhoi cyfarwyddyd ymyrryd rhaid i Weinidogion Cymru—

a

darparu neu geisio darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor (a all gynnwys cyfarwyddo cyngor arall o dan adran 103),

b

ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, ac

c

hysbysu’r cyngor eu bod yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd.

3

Nid yw gofyniad ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen brys i roi’r cyfarwyddyd a bod cymaint o frys fel y byddai’n briodol gwneud hynny heb gymryd y cam a nodir yn y paragraff.

4

Yn yr adran hon ystyr “cyfarwyddyd ymyrryd” yw cyfarwyddyd o dan adran 105, 106 neu 107; ac mae’r adrannau hynny yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) i (3) o’r adran hon.

105Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorth

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”) i gydweithredu ag—

a

Gweinidogion Cymru;

b

prif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103,

at ddibenion galluogi darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor a gefnogir.

2

Pan fydd cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn cael effaith rhaid i’r cyngor a gefnogir ddarparu i berson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) y pethau a ganlyn, i’r graddau y bo’r person yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor—

a

mynediad at ei fangreoedd;

b

mynediad at y dogfennau a gedwir ganddo (a rhaid i’r cyngor a gefnogir ganiatáu i’r person gymryd copïau o’r dogfennau hynny);

c

gwybodaeth arall;

d

cyfleusterau a chymorth.

3

Ond nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor ddarparu, neu ddarparu mynediad at, unrhyw beth y mae’r cyngor wedi ei wahardd rhag ei ddarparu neu ddarparu mynediad ato gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol.

4

Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gyngor a gefnogir gydweithredu â pherson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) drwy gymryd camau a bennir yn y cyfarwyddyd, gan gynnwys—

a

ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau) â’r person hwnnw;

b

caniatáu i’r person hwnnw hwyluso neu gydgysylltu unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r cyngor.

5

Yn is-adran (1)(a) a (b), mae’r cyfeiriadau at Weinidogion Cymru a phrif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103 yn cynnwys person sy’n gweithredu ar eu rhan, yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.

106Cyfarwyddyd i gymryd cam penodedig neu i gadw rhag ei gymryd etc.

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—

a

i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y cam o fewn iddo);

b

i gadw rhag cymryd cam penodedig;

c

i roi’r gorau i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid i’r cyngor roi’r gorau i gymryd y cam o fewn iddo).

2

Mae’r camau y caiff cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gyngor eu cymryd yn cynnwys ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall—

a

gyda pherson penodedig;

b

gyda pherson o ddisgrifiad penodedig;

c

at ddibenion penodedig;

d

ar delerau ac amodau penodedig.

3

Yn yr adran hon mae “penodedig” yn golygu penodedig yn y cyfarwyddyd.

107Cyfarwyddyd bod swyddogaeth i’w chyflawni gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod swyddogaeth benodedig prif gyngor i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu gan berson a enwebir ganddynt.

2

Pan fydd cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn cael effaith rhaid i’r prif gyngor—

a

cydymffurfio â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth benodedig;

b

darparu i Weinidogion Cymru neu eu henwebai y pethau a ganlyn, i’r graddau y bo Gweinidogion Cymru neu eu henwebai yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arfer y swyddogaeth benodedig—

i

mynediad at ei fangreoedd;

ii

mynediad at ddogfennau a gedwir ganddo (a rhaid i’r prif gyngor ganiatáu i Weinidogion Cymru neu eu henwebai gymryd copïau o’r dogfennau hynny);

iii

gwybodaeth arall;

iv

cyfleusterau a chymorth;

c

cymryd unrhyw gamau penodedig.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, gymhwyso deddfiad gydag addasiadau, neu ddatgymhwyso deddfiad, mewn perthynas â swyddogaethau sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai yn rhinwedd cyfarwyddyd o fewn yr adran hon.

4

Yn is-adran (2) mae’r cyfeiriadau at Weinidogion Cymru a’u henwebai yn cynnwys person sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru neu eu henwebai, yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.

5

Yn yr adran hon mae “penodedig” yn golygu penodedig yn y cyfarwyddyd.