xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1LL+CPERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Valid from 01/04/2021

AtodolLL+C

108Arfer swyddogaethau o dan y Bennod honLL+C

(1)Caniateir i swyddogaeth a roddir i brif gyngor o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon (ac eithrio swyddogaethau a roddir yn benodol i bwyllgor llywodraethu ac archwilio) gael ei harfer gan y cyngor neu gan ei weithrediaeth, yn unol â phenderfyniad y cyngor.

(2)Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y cyngor, nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

(3)Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y weithrediaeth, nid yw adran 14 nac (yn ôl y digwydd) adran 15 o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gan weithrediaethau) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.

(4)Y swyddogaethau yw—

(a)adran 91(1) (adroddiad hunanasesu);

(b)adran 91(8) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag adroddiad);

(c)adran 92(1) (penodi panel asesiad perfformiad);

(d)adran 93(1) (ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);

(e)adran 93(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i adroddiad gan banel);

(f)adran 96(1) (ymateb i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(g)adran 96(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(h)adran 102(2) (cais i Weinidogion Cymru am gefnogaeth a chymorth).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

109Pŵer Gweinidogion Cymru i ychwanegu at y rhestr o bersonau y mae rhaid anfon adroddiadau etc. atyntLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r darpariaethau a ganlyn er mwyn ychwanegu person at y rhestrau yn y darpariaethau hynny—

(a)adran 91(10)(c) (adroddiad hunanasesu);

(b)adran 92(5) (adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);

(c)adran 93(6)(b) (ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);

(d)adran 95(7)(b) (adroddiad ar arolygiad arbennig);

(e)adran 96(7)(b) (ymateb prif gyngor i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(f)adran 97(2)(b) (ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

110Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio etc. ddeddfiadau a rhoi pwerau newyddLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod deddfiad (ac eithrio darpariaeth yn y Bennod hon) yn atal neu’n rhwystro prif gyngor rhag cydymffurfio â’r Bennod hon, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso’r deddfiad hwnnw mewn perthynas ag—

(a)pob prif gyngor,

(b)prif gynghorau penodol, neu

(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n rhoi i—

(a)pob prif gyngor,

(b)prif gynghorau penodol, neu

(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol,

unrhyw bŵer y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn caniatáu i brif gyngor gydymffurfio â’r Bennod hon, neu sy’n hwyluso hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) osod amodau ar arfer unrhyw bŵer a roddir gan y rheoliadau (gan gynnwys amodau ynglŷn ag ymgynghori neu gymeradwyo).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

111CanllawiauLL+C

(1)Rhaid i berson sydd â swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Bennod hon sy’n ymwneud ag asesu i ba raddau y mae prif gyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, rhaid i berson roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r gofynion perfformiad.

(3)Nid yw gofynion yr adran hon yn gymwys i—

(a)Archwilydd Cyffredinol Cymru neu berson sy’n arfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y Bennod hon (yn rhinwedd dirprwyad a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3));

(b)prif gyngor (gweler adran 89(3) sy’n ymdrin â chanllawiau i brif gynghorau).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

112DehongliLL+C

Yn y Bennod hon—

  • mae i “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr ystyr a roddir yn adran 95;

  • mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf;

  • mae i “gofynion perfformiad” (“performance requirements”) yr ystyr a roddir yn adran 89(2);

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)