RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU

PENNOD 5DARPARIAETH BELLACH MEWN PERTHYNAS Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A RHEOLIADAU CYD-BWYLLGOR

Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

78Cais gan brif gynghorau i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

(1)Caiff y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 i ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y cyd-bwyllgor corfforedig.

(2)Ond ni chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—

(i)onid yw honno yn swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais;

(ii)onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;

(b)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud) er mwyn—

(i)hepgor neu addasu swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;

(ii)hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;

(iii)hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd neu osod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth honno;

(c)dirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 74.

(3)Ni chaniateir gwneud cais o dan yr adran hon yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal (fel y bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â’r ardal honno) oni fo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno yn un o’r ceiswyr.

79Darpariaeth bellach mewn perthynas â cheisiadau

(1)Cyn gwneud cais o dan adran 78 rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, ar ôl cael cais o dan adran 78, peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 80, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.

80Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) onid yw—

(a)yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt), yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;

(b)yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth, ac eithrio er mwyn—

(i)pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;

(ii)pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;

(iii)pennu neu hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd,

yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;

(c)mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau o dan adran 74 er mwyn gosod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd), yr amodau a nodir yn adran 82 wedi eu bodloni.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—

(a)onid yw honno yn swyddogaeth i’r prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;

(c)yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74, onid honno yw’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.

(4)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—

(a)yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, neu

(b)yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sydd—

(a)yn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn hepgor swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau cyd-bwyllgor hynny, neu

(b)yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor (er mwyn diddymu’r cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan y rheoliadau hynny),

ddarparu y bydd swyddogaeth a fydd yn peidio â bod yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio’r swyddogaeth llesiant economaidd neu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yn arferadwy gan berson arall.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddirymu rheoliadau a wnaed o dan yr adran hon.

81Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor: cais gan brif gynghorau yn ofynnol

(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(a) a (b) fel a ganlyn.

(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais o dan adran 78 i ddiwygio’r rheoliadau cyd-bwyllgor.

(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.

(4)Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.

(5)Y pedwerydd amod yw, os yw’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i’r cyd-bwyllgor corfforedig.

82Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor: nid yw cais gan brif gynghorau yn ofynnol

(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(c) fel a ganlyn.

(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.

(3)Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i—

(a)y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig,

(b)os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal—

(i)y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, a

(ii)os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, neu os bydd ganddo’r swyddogaeth honno o dan y rheoliadau, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal honno,

(c)os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, a

(d)y cyd-bwyllgor corfforedig.