RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU
PENNOD 3SEFYDLU CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PAN FO CAIS WEDI EI WNEUD
Ceisiadau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig
70Cais gan brif gynghorau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig
(1)
Caiff unrhyw ddau brif gyngor neu ragor wneud cais ar y cyd (“cais cyd-bwyllgor”) i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 72 i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer—
(a)
swyddogaeth i’r cynghorau hynny;
(b)
y swyddogaeth llesiant economaidd,
mewn perthynas â phrif ardaloedd y cynghorau hynny.
(2)
Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais cyd-bwyllgor, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 72, rhaid iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.
71Ymgynghori cyn gwneud cais cyd-bwyllgor
Cyn gwneud cais cyd-bwyllgor rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag—
(a)
pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(b)
pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)
yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,
(d)
y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(e)
pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac
(f)
unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt
72Rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â phrif ardaloedd y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor (“y cynghorau perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.
(2)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 73 wedi eu bodloni.
(3)
Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—
(a)
swyddogaeth i’r prif gynghorau a wnaeth y cais;
(b)
y swyddogaeth llesiant economaidd.
(4)
Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—
(a)
yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y cynghorau perthnasol, neu
(b)
yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r cynghorau perthnasol.
(5)
Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.
73Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt
(1)
Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 72(2) fel a ganlyn.
(2)
Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais cyd-bwyllgor.
(3)
Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau arfaethedig—
(a)
y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor,
(b)
pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)
pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(d)
yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,
(e)
y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(f)
pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac
(g)
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(4)
Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.