xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU

PENNOD 3LL+CSEFYDLU CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PAN FO CAIS WEDI EI WNEUD

Ceisiadau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedigLL+C

70Cais gan brif gynghorau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedigLL+C

(1)Caiff unrhyw ddau brif gyngor neu ragor wneud cais ar y cyd (“cais cyd-bwyllgor”) i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 72 i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer—

(a)swyddogaeth i’r cynghorau hynny;

(b)y swyddogaeth llesiant economaidd,

mewn perthynas â phrif ardaloedd y cynghorau hynny.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais cyd-bwyllgor, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 72, rhaid iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 70 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

71Ymgynghori cyn gwneud cais cyd-bwyllgorLL+C

Cyn gwneud cais cyd-bwyllgor rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag—

(a)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,

(b)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,

(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,

(d)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,

(e)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac

(f)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 71 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)